Ydych chi’n blymwr cymwys gydag o leiaf blwyddyn o brofiad ar ôl cwblhau eich prentisiaeth?
Os felly, efallai yr hoffech daro golwg ar y swydd hon yr ydym yn ei hysbysebu…
Rydym yn chwilio am Blymwr i wneud gwaith domestig yn ein tai cyngor.
Rydym yn edrych ar ôl 11,200 o dai yn Wrecsam, a bydd y person llwyddiannus yn chwarae rhan wrth wneud yn siŵr bod ein preswylwyr yn hapus ac yn gynnes 🙂
Ydych chi’n addas ar gyfer y swydd? Dyma ychydig o wybodaeth bellach…
Ynglŷn â’r swydd
Mae’r swydd hon yn cynnwys gwneud bob math o waith nwy i safon ddiogel a chymwys.
Mae hefyd yn cynnwys gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd yn ein heiddo, yn ogystal â gosodiadau plymio newydd.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar ddiploma City and Guilds (neu gyfwerth) mewn Plymio ac o leiaf blwyddyn o brofiad ôl-brentisiaeth.
Mae cymwysterau diogelwch nwy Gas Safe yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol.
Mae gen i ddiddordeb…..beth nesaf?
I weld y disgrifiad swydd yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw dydd Gwener 8 Chwefror.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=EBFD8138-0EBD-06AC-9B17A37B964BD6A9″] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]