Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n bwriadu gwneud ychydig o siopa Nadolig ar-lein eleni? Os felly, darllenwch hwn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n bwriadu gwneud ychydig o siopa Nadolig ar-lein eleni? Os felly, darllenwch hwn…
ArallY cyngor

Ydych chi’n bwriadu gwneud ychydig o siopa Nadolig ar-lein eleni? Os felly, darllenwch hwn…

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 19, 2021 1:51 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Light up Wrexham
RHANNU

Wrth i ni nesáu at y ras olaf o siopa Nadolig cyn y diwrnod mawr, mae’n debyg mai eich bwriad fydd gwneud llawer o’ch siopa ar-lein.

Mae tîm Safonau Masnach Wrecsam yn cynghori siopwyr i gadw llygad ar wiriadau diogelwch ar-lein sylfaenol wrth brynu nwyddau neu anrhegion ar-lein – a dim ond ychydig o eiliadau y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn eu cymryd i’w gwneud.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae ymchwil gan Safonau Masnach Cenedlaethol yn dangos bod mwy na dau draean o siopwyr yn hepgor y gwiriadau diogelwch allweddol – gan roi eu hunain mewn perygl o dwyll.

A does neb eisiau rhoi eu hunain mewn perygl o golli arian cyn y Nadolig.

Gwiriadau sylfaenol i gadw eich hun yn ddiogel

Os byddwch yn prynu cynnyrch gan werthwr ar-lein, dyma ychydig o bethau sylfaenol y gallwch eu gwneud i gadw eich hun yn ddiogel rhag twyll.

  • Peidiwch â chael eich denu gan gynigion hysbysebu neu ostyngiadau a rennir ar gyfryngau cymdeithasol – gall y rhain edrych yn ddeniadol, ond yn aml dolen ydyn nhw i wefannau copi, lle gall twyllwyr ddwyn eich manylion.
  • Edrychwch am adolygiadau o’r cynnyrch neu’r adwerthwr/gwerthwr – a gofynnwch i chi eich hun a ydyn nhw’n edrych yn ddilys.
  • A oes llawer o gamgymeriadau sillafu neu ramadegol ar y wefan? Os felly, gallai hynny fod yn awgrym nad yw’r busnes yn cael ei redeg yn broffesiynol.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan y wefan gyfeiriad wedi’i amgryptio – bydd hyn yn dangos os bydd symbol clo clap yn y bar tasgau (lle rydych yn teipio’r cyfeiriad), neu os oes “s” ar ddiwedd rhan “http” y cyfeiriad. Os felly, mae’n golygu bod y wefan yn defnyddio system wedi’i amgryptio, sy’n cadw eich manylion yn ddiogel.
  • Oes gan y cwmni rif llinell dir y gallwch ei ffonio os byddwch yn cael unrhyw broblemau?
  • Darllenwch y print bach – sylwch a oes unrhyw beth yn ymddangos yn rhyfedd, yn ailadroddus neu’n anghywir yn Saesneg.
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan fargen amhosibl – os bydd rhywbeth yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, dyma’r achos fel arfer.
  • Cofiwch fod twyllwyr yn ecsbloetio cynnyrch sydd â galw uchel – os bydd siopau’n rhedeg allan o bethau fel teganau a gemau, bydd twyllwyr yn gwerthu fersiynau tebyg o ansawdd gwael.
  • Peidiwch â phrynu mewn panig – gwnewch ychydig o wiriadau synnwyr cyffredin fel y rhai uchod a gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi eich manylion i droseddwr.

Mae llawer o fanwerthwyr ar-lein wedi bod yn brysurach na’r arfer eleni oherwydd Covid-19 ac mae ychydig ohonyn nhw wedi’i chael hi’n anodd cwrdd â’r galw. Yn anffodus i’r cwmnïau hynny, mae hynny wedi arwain at oedi, camgymeriadau a thrafferthion derbyn ymateb cadarnhaol.

Mae’n syniad da i chi wirio adolygiadau ar-lein, yn enwedig os nad ydych chi wedi defnyddio’r cwmni o’r blaen neu glywed amdanyn nhw.

Cofiwch ddechrau siopa’n ddigon buan er mwyn gwneud yn siŵr bod pethau’n cyrraedd ar amser neu i roi digon o amser i chi ymateb os nad ydi nwyddau yn cyrraedd neu’n foddhaol.

Os ydych chi’n prynu rhywbeth sy’n costio mwy na £100 mae defnyddio cerdyn credyd yn gallu rhoi diogelwch ychwanegol i chi pan fo pethau’n mynd o chwith. Mae hefyd yn werth i chi holi’ch banc i weld pa ddiogelwch y gallan nhw ei gynnig i chi pan fyddwch chi’n talu â cherdyn debyd.

Os credwch fod unrhyw werthwr ar-lein neu wyneb yn wyneb yn gwerthu nwyddau a all fod yn beryglus, neu fod rhywbeth rydych wedi’i brynu yn gwneud i chi deimlo’n amheus, dywedwch wrth Gyngor ar Bopeth drwy ffonio’r Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 03454 04 05 06.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Fre Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam
Erthygl nesaf Dathliadau wrth i faes chwarae newydd agor ym Mhentre Broughton Dathliadau wrth i faes chwarae newydd agor ym Mhentre Broughton

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English