Ydych chi’n cerdded neu’n beicio er mwyn cyrraedd lle rydych eisiau mynd yn Wrecsam? Os felly hoffem i chi gysylltu â ni er mwyn gadael i ni wybod sut gallwn ni wella’r llwybrau rydych yn eu defnyddio.
“Teithio llesol” yw’n enw arno ac rydym yn rhoi map cerdded a beicio newydd at ei gilydd ar gyfer y fwrdeistref sirol gan ein bod am annog mwy ohonoch i deithio’n llesol.
Rydym am wybod os gellid gwella’r llwybr rydych yn ei ddefnyddio neu oes llwybr ar goll yr hoffech ei weld ar gael ar gyfer teithiau bob dydd?
Byddwn yn ystyried eich holl awgrymiadau a byddant yn rhoi gwybodaeth bwysig i ni er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu’r map newydd a fydd yn cael ei adnabod fel Map Rhwydwaith Integredig, cynllun cerdded a beicio ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Caiff y map ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell – Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Fel Cyngor, rydyn ni’n llwyr ymrwymo i’n dyletswyddau dan y Ddeddf Teithio Llesol a byddwn yn annog cymaint â phosib’ o’r trigolion i edrych ar yr ymgynghoriad ac ymateb iddo. Rydyn ni am glywed eich safbwyntiau chi ar sut i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal mwy o bobl rhag teithio’n llesol yn rhan o siwrneiau pob dydd. Mae’r wybodaeth rydych yn ei rhoi yn werthfawr, a bydd yn gymorth wrth i ni ddatblygu’r Rhwydwaith Teithio Llesol ar draws Wrecsam yn y dyfodol.”
Bydd y cyfnod ymgynghori yn cau ar 20 Hydref.
Gallwch gymryd rhan ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod:
RYDW I AM GYMRYD RHAN