Mae’n bosibl bod lliw a hwyl Dydd Llun Pawb, a welodd miloedd o bobl yn dod i ganol tref Wrecsam i ddathlu agoriad Tŷ Pawb ar ddydd Llun Gŵyl y Banc glawog, fel atgof pell wrth i ni nesáu at yr haf.
Wrth i arddangosfa agoriadol Tŷ Pawb, Ai’r ddaear yw hon? ddod i ben ar ddiwedd mis Mehefin, bydd arddangosfa newydd sy’n edrych yn ôl dros waith paratoi carnifal Dydd Llun Pawb yn agor.
Y teitl fydd Wrecsam yw’r Enw, a bydd yr arddangosfa newydd yn cynnwys y chwe chofrodd ar thema Wrecsam a gomisiynwyd gan Dŷ Pawb fel rhan o ddathliadau Dydd Llun Pawb, ynghyd â gwrthrychau a delweddau eraill.
Chwe stori wedi’u dewis
Ym mis Tachwedd y llynedd, dewiswyd chwe artist gan Dŷ Pawb i ddatblygu cofrodd a ysbrydolwyd gan stori benodol o orffennol Wrecsam.
Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y cofroddion gan y cyhoedd yn ystod haf y llynedd o restr hir o 25, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.
O’r prosiect fe ddaeth casgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau print i sgarffiau pêl-droed, a gaiff eu harddangos yn Nhŷ Pawb.
Fe fydd y gwaith teimladwy, doniol ac ingol wedi’u harddangos ochr yn ochr ag amrywiaeth o eitemau dogfennau Dydd Llun Pawb – lle cafodd fersiynau o’r cofroddion eu paredio drwy’r dref i ddathlu agoriad Tŷ Pawb – a chyfweliadau gyda phob un o’r chwe artist.
Bydd hyn yn cynnwys gwrthrychau a delweddau sy’n gysylltiedig â phrosiect Dydd Llun Pawb, a oedd yn flwyddyn o hyd, a oedd yn cynnwys gweithdai ac ymgysylltu â’r gymuned yn ystod y cyfnod a oedd yn arwain at y diwrnod dathlu ar 2 Ebrill.
Bydd Wrecsam yw’r Enw yn rhedeg yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 19 Awst.
“Straeon rhyfedd a rhyfeddol”
Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r broses o ddatblygu’r chwe chofrodd wedi datgelu straeon rhyfedd a rhyfeddol. Mae’r chwe artist wedi gwneud gwaith gwych wrth gyfieithu ein treftadaeth yn rhywbeth y bydd ymwelwyr i Dŷ Pawb am fod yn berchen arno a’i drysori.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Wrecsam i ymweld â’r arddangosfa hwn yn Nhŷ Pawb. Mae hon yn enghraifft wych o’n cymunedau lleol yn cynnwys eu hunain ym mywyd Tŷ Pawb.
“Mae’r cofroddion a gynhyrchwyd wedi’u hysbrydoli gan nifer o atgofion o’r Wrecsam a fu, ac rwy’n siŵr y bydd gan aelodau’r cyhoedd atgofion yr un mor felys ohonynt.”
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR