Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n defnyddio meysydd parcio canol y dref? Os ydych chi, dylech chi ddarllen hwn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi’n defnyddio meysydd parcio canol y dref? Os ydych chi, dylech chi ddarllen hwn…
Pobl a lleY cyngor

Ydych chi’n defnyddio meysydd parcio canol y dref? Os ydych chi, dylech chi ddarllen hwn…

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 2, 2018 11:12 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ydych chi’n defnyddio meysydd parcio canol y dref? Os ydych chi, dylech chi ddarllen hwn...
RHANNU

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, rydym ni hefyd yn cyflwyno ffioedd parcio newydd.

Ar ôl cynnig parcio am ddim drwy gydol mis Rhagfyr – a oedd yn llwyddiant ysgubol – bydd y ffioedd a’r bandiau prisio newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2018.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Y nod yw denu mwy o bobl i ganol y dref ac annog siopwyr i aros yn hirach, ac felly bydd parcio arhosiad byr yn cael ei ymestyn 1 awr sy’n golygu y gallwch chi barcio o 1 i 3 awr am £1.80. Dyma fydd ffi pob maes parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Yn ogystal, byddwn yn lleihau pris parcio yn y Byd Dŵr – ein maes parcio mwyaf – i £3 drwy’r dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar ben hyn, bydd trwydded parcio chwe mis y maes parcio hwnnw yn costio £300 (yn hytrach na £350).

Fodd bynnag, bydd cost parcio ym maes parcio Ffordd Cilgant yn cynyddu, gyda chost parcio drwy’r dydd yn codi i £2 a thrwydded barcio chwe mis yn costio £200.

Mae parcio am ddim ar ôl 3pm yn Ffordd Cilgant a Thŷ Pawb (Marchnad y Bobl gynt) hefyd yn newid, gyda’r ffioedd yn berthnasol tan 6pm ac yna’n £1 tan hanner nos.

Bydd Tŷ Pawb, y prosiect newydd a chyffrous ar safle Marchnad y Bobl, yn agor fis Ebrill 2018. Bydd cost parcio ar y safle yn £1 am awr.

Adlewyrchu’r galw am barcio

Rydym ni’n gwneud y newidiadau hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni strwythur ffioedd sy’n adlewyrchu’r galw am barcio yng nghanol y dref.

Mae’r gwelliannau rydym ni wedi eu gwneud i’n meysydd parcio’n ddiweddar, gyda pheiriannau newydd sy’n golygu y gallwch chi dalu gyda cherdyn a chyda ffôn symudol yn defnyddio’r ap Just Park, yn dangos bod Cyngor Wrecsam yn ymdrechu i wella cyfleusterau parcio canol y dref a’r ardal gyfagos er mwyn denu mwy a mwy o bobl i’r dref.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y ffioedd newydd hyn yn dod â’n holl feysydd parcio yng nghanol y dref yn unol â’i gilydd, a bydd y trefniadau yn fwy teg ar draws yr holl feysydd parcio.

“Byddwn yn sicrhau bod gennym ni strwythur prisio parcio sy’n adlewyrchu gofynion parcio yng nghanol y dref, a byddwn yn diwallu anghenion trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol.

“Bydd y ffi newydd 1-3 awr am £1.80 yn caniatáu i siopwyr dreulio mwy o amser yn y dref, a bydd y gostyngiad ym mhris parcio drwy’r dydd yn y Byd Dŵr, ein maes parcio mwyaf, yn galluogi iddyn nhw aros yn hwy.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynghorau’r Gogledd yn lansio Cynnig Twf fydd yn golygu llawer o filiynau o bunnoedd i Ogledd Cymru Cynghorau’r Gogledd yn lansio Cynnig Twf fydd yn golygu llawer o filiynau o bunnoedd i Ogledd Cymru
Erthygl nesaf CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English