Gwrandewch deithwyr bysiau ifanc; byddwch yn falch iawn o glywed am y cerdyn hwn sydd AM DDIM…
Mae Fy Ngherdyn Teithio yn gynllun sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi gostyngiad ar docynnau bws i bobl ifanc (16-21 oed).
Er mwyn hawlio gostyngiad, gwnewch gais am Fy Ngherdyn Teithio ar eu gwefan, a phan mae’n cyrraedd, dangoswch y cerdyn i’ch gyrrwr bws er mwyn arbed oddeutu 30% ar eich tocyn bws.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Cerdyn am ddim!
Mae’r cerdyn AM DDIM, felly peidiwch ag oedi! Ymgeisiwch ac arbedwch 🙂
Er mwyn bod yn gymwys, bydd angen i chi gael cyfeiriad parhaol yng Nghymru neu fynychu addysg llawn amser yng Nghymru. Mae mwyafrif o gwmnïau bysiau yn derbyn y cerdyn hefyd.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn gynllun cenedlaethol gwych i bobl ifanc Wrecsam fanteisio arno.
“Rydym yn ymwybodol iawn bod nifer o bobl ifanc yn dibynnu ar fysiau er mwyn gallu astudio, neu deithio i’w swyddi, felly mae hyn yn rhywbeth i arbed arian…ac mae’r cerdyn yn rhad ac am ddim hefyd.”
Mae’r cynllun yn cymryd lle’r cynnig blaenorol a oedd ar gael i bobl ifanc 16-18 oed yn unig, ond nawr, gall bobl ifanc arbed ar eu tocyn bws hyd at eu pen-blwydd yn 22 oed.
Gwych! 🙂
Mae rhai eithriadau yn gymwys, ond gallwch ddarganfod mwy am hyn ar eu gwefan.
Cliciwch yma i wneud cais am eich cerdyn!