Os ydych chi’n rhentu tŷ gan landlord preifat a bod gennych broblem frys gyda’ch eiddo, dyma gyngor am sut i gael help yn ystod y cyfyngiadau ar symud yn ystod Covid-19.
Dylid rhoi gwybod i’ch landlord am bob argyfwng, fel diffygion trydanol neu nwy (gan gynnwys diffyg dŵr poeth neu wres), materion draenio neu gynnydd o ran risg tân, ond os na allwch gael help ganddyn nhw, gallwch ffonio tîm Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor.
Gallwch gysylltu â’r adran Gwarchod y Cyhoedd dros e-bost ar healthandhousing@wrexham.gov.uk neu trwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01978 292000.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Pan fyddwn yn cael eich cwyn am amodau gwael, bydd swyddog achos yn cysylltu â chi i drafod y diffygion ac mae’n bosibl y bydd yn gofyn am dystiolaeth ar ffurf llun neu fideo i’n galluogi i asesu’r risg.
Mae’n bosibl y bydd staff Gwarchod y Cyhoedd yn ymweld â’ch cartref hefyd, gan lynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a gwisgo cyfarpar diogelu personol, neu drefnu i asesu’r broblem dros fideoalwad.
Er mwyn ein galluogi i’ch ffonio chi’n ôl, mae angen i chi gasglu’r wybodaeth a ganlyn:
- cyfeiriad llawn yr eiddo
- eich manylion cyswllt, rhif ffôn ac e-bost lle bynnag bo’n bosibl
- disgrifiad o’r diffygion a’u heffaith arnoch chi
- os oes unrhyw ddeiliaid sy’n dangos arwyddion neu symptomau o Covid-19
- os oes unrhyw ddeiliaid sy’n cael eu hystyried fel unigolion diamddiffyn, gan gynnwys unrhyw weithwyr allweddol
- Os oes unrhyw un yn yr eiddo sydd yn y grŵp gwarchod
Cysylltiadau Tenantiaeth a Throi Pobl Allan yn ystod COVID-19
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cyfres o fesurau i ddiogelu pobl sy’n rhentu ac sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19. Mae hyn yn golygu na chaiff unrhyw un sy’n rhentu, naill ai lety cymdeithasol neu breifat, eu gorfodi i adael eu cartref.
Cyngor i denantiaid
Mae’r Cyngor yn dal i ymchwilio i gwynion am aflonyddu a throi allan yn anghyfreithlon. Os byddwch chi’n gwneud cwyn, bydd swyddog achos yn cysylltu â chi i’ch cynghori.
Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor i denantiaid am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
- bygythiad o gael eu troi allan
- aflonyddwch gan eu landlord
- gwaith atgyweirio i eiddo rhent
- safleoedd cartrefi symudol
- trwyddedu llety rhent
Cyngor i landlordiaid
Fel landlord, rydych chi’n dal i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol.
Sylwch nad ydym yn cynghori landlordiaid am sut i gydymffurfio â deddfwriaeth, ac nid yw unrhyw wybodaeth a ddarperir gyfystyr â chyngor. Dylech geisio eich cyngor arbenigol eich hun (e.e. gan gymdeithas landlordiaid neu gyfreithiwr).
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19