Diogelwch. Seiberddiogelwch. Twyll. Tywydd eithafol. Costau. Adnoddau. A chant a mil o bethau eraill.
Fel unrhyw sefydliad mawr, mae Cyngor Wrecsam yn wynebu llawer iawn o risgiau – ac mae gofyn i ni eu rheoli.
Oherwydd os yw rhai pethau yn mynd o chwith, gallant gael effaith drom ar ein gwasanaethau … ac ar y bobl sy’n eu defnyddio.
Mae’n rhaid i ni sicrhau felly ein bod yn gwybod beth yw’r prif risgiau, a’n bod yn gwneud digon i rwystro neu leihau eu heffaith.
I’w drafod ar 24 Medi
Bydd ein Pwyllgor Archwilio yn cyfarfod ddydd Mawrth, 24 Medi i edrych ar y prif risgiau a wynebir gan y Cyngor, yr hyn yr ydym yn ei wneud i’w rheoli, a pha mor dda yr ydym yn gwneud hynny.
Jerry O’Keeffe yw cadeirydd y pwyllgor. Nid yw’n gynghorydd nac yn weithiwr, ond yn hytrach yn aelod annibynnol o’r cyhoedd.
Dywed: “Mae Cynghorau yn gyrff cymhleth. Maent yn darparu gwasanaethau sy’n effeithio arnom i gyd ac yr ydym yn dibynnu arnyn nhw.
“Mae angen i’r Cyngor adnabod ei risgiau a chanolbwyntio ar y rhai pwysicaf, gan sicrhau fod y mesurau rheoli cywir yn eu lle.”
Bydd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan archwilwyr y Cyngor. Ychwanegodd Mr O’Keeffe, “Mae hefyd yn hanfodol fod archwilio effeithio yn digwydd i sicrhau fod y mesurau rheoli yn gweithio ac yn ddigon cryf”.
Dewch i’r cyfarfod
Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle?
Dywed Mr O’Keeffe: “Mae’r pwyllgor yn edrych ar faterion difrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus nac yn orffurfiol. Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol.”
Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod ddydd Mawrth 24 Medi yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Bydd yn dechrau am 4pm.