Rydym i gyd yn gyfarwydd gyda trais domestig a cam-drin geiriol neu gorfforol ond gall ymddygiad sy’n rheoli ac ymddygiad cymhellol fod yn fwy anos i’w hadnabod.
Mae’n aml yn dechrau yn eithaf cynnil a gall ymddangos fel bod gan rywun feddwl mawr ohonoch ond yn rhy aml gall droi i sefyllfa ble nad oes gan ddioddefwr unrhyw reolaeth dros eu bywydau eu hunain a gallant ddechrau byw mewn ofn o rywun gyda nunlle i droi.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae arwyddion i’w hadnabod a gellir gwneud pethau i roi cymorth ac i gael cymorth.
Dyma rai arwyddion i edrych amdanynt:
• yn eich ynysu chi o’ch ffrindiau a theulu
• rheoli faint o arian sydd gennych a sut rydych yn ei wario
• yn eich difrïo, galw enwau arnoch neu ddweud wrthych eich bod yn ddiwerth yn barhaus
• cadw golwg ar eich gweithgareddau a’ch symudiadau
• bygwth eich niweidio neu eich lladd chi neu eich plentyn
• bygwth cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi neu ddweud wrth yr heddlu neu’r awdurdodau
• difrodi eich eiddo neu eitemau’r cartref
• eich gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd troseddol neu gam-drin plant
• eich ynysu o ffynonellau o gefnogaeth
Mae hefyd yn cynnwys ymddygiad megis anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod.
Mae cymorth ar gael a gall unrhyw un sydd angen cefnogaeth neu sy’n poeni am rywun a allai fod angen cefnogaeth gysylltu â LiveFearFree Wales ar 0808 10 800, mynd i’w gwefan ar https://llyw.cymru/byw-heb-ofn i anfon neges destun neu gael sgwrs. Mae gan y wefan LiveFear Free ddolenni “allanfa diogel” i unrhyw un sy’n poeni fod rhywun yn edych ar eu hanes chwilio neu angen gadael y sgrin yn sydyn.
Mae hefyd yn drosedd os:
- Yw’r cyflawnwr yn ymddwyn mewn modd sy’n rheoli neu’n gymhellol yn barhaus tuag at y dioddefwr; ac
- Pan fo’r ymddygiad yn digwydd, mae gan y cyflawnwr a’r dioddefwr gysylltiad personol; a
- Mae’r ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr; a
- Mae’r cyflawnwr yn gwybod neu dylai wybod y bydd yr ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar y dioddefwr.
- Dyma gerdd a ysgrifennwyd gan Kerry Mellor sydd hefyd wedi gwneud fideo i ni a fydd ar gael yn fuan.
Roedd Kerry mewn perthynas gymhellol am nifer o flynyddoedd ond yn ddewr iawn bu iddi ganfod y cryfder i adael ei pherthynas, ceisio cymorth ac mae’n ail-sefydlu ei bywyd gyda’i phlant.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG