O ganlyniad i ymdrechion Tasglu Eco-Weithredu Ysgol Clywedog mae 250 o goed wedi eu plannu ar dir yr ysgol fel rhan o ymgyrch ‘Big Climate Fightback’ Coed Cadw.
Mae’n rhan o brosiect sydd eisoes yn weithredol yn yr ysgol sy’n anelu at greu gofod dysgu awyr agored, coetir a rhandir.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Dywedodd y Pennaeth Daearyddiaeth, Nicholas Brown: “Roedd yn ymdrech enfawr gan bawb i blannu 250 o goed, ond bydd werth yr ymdrech. Mae’r bobl ifanc yn awyddus iawn i wella’r amgylchedd lle rydym yn byw a dysgu ac rydym bob amser yn awyddus i gefnogi eu dyheadau. Fe hoffwn i ddiolch i bawb a gymrodd ran yn y plannu, gweithred a fydd yn cael ei gwerthfawrogi gan genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Pennaeth Amgylchedd a Thechnegol Cyngor Wrecsam, Darren Williams: “Mae pawb i’w canmol am eu hymrwymiad i wella eu hamgylchedd naturiol. Fe ddylai’r coed aeddfedu dros amser i ddarparu amgylchedd hynod o hardd y gall pobl ei fwynhau a chynefin amrywiol yn ecolegol ar gyfer bywyd gwyllt.”
Cafodd y coed eu darparu gan Goed Cadw a’r coed derw gan Mitego Coffee yng Nghaer.
Plannu’r coed oedd y weithred olaf a wnaed gan Dasglu Eco-Weithredu’r ysgol i gyflawni eu lefel Aur yng ‘Ngwobr Coed Gwyrdd Ysgolion’.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN