Pam ydyn ni`n gwneud hyn?
Mae Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ceisio barn am nodyn Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) drafftar gyfer goleuadau yn yr AHNE. Bydd hwn yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i ddatblygwyr ac eraill ar greu dyluniad goleuo da yn yr AHNE.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE: “AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw un o dirweddau hyfrytaf Cymru. Mae’n un o’r ardaloedd sy’n mwynhau’r awyr dywyllaf yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd i brofi rhyfeddodau awyr dywyll. Bydd y CCA yn helpu gwarchod a gwella’r nodwedd arbennig hon drwy godi ymwybyddiaeth am y mater a hyrwyddo dyluniad goleuo sy’n ystyriol o’r awyr dywyll. Fe hoffem ni glywed eich barn chi, a byddwn yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosib i gymryd rhan yn y broses ymgynghori a chael dweud eu dweud ar y CCA drafft cyn y dyddiad cau ar 9 Awst.”
Mae’r AHNE wedi’i dynodi yn dirwedd o bwysigrwydd cenedlaethol a’n diben pennaf yw gwarchod a gwella ei harddwch naturiol. Un o nodweddion arbennig cydnabyddedig yr AHNE yw ei natur llonydd sy’n cynnig cyfle i weld awyr dywyll. Mae’r AHNE yn un o’r ardaloedd sydd â’r awyr dywyllaf yng Nghymru, ac mae’r CCA drafft yn ceisio gwarchod a gwella’r nodwedd arbennig hon drwy ddarparu canllawiau i ddatblygwyr ac eraill ar greu dyluniad goleuo sy’n ystyriol o’r awyr dywyll. Pan gaiff ei gymeradwyo gan yr Awdurdodau Cynllunio Lleol, bydd y CCA yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio.
Beth ydym ni eisiau ei wybod?
Mae’r tri Awdurdod Cynllunio Lleol a’r AHNE yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o sefydliadau statudol ac anstatudol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol a’r cyhoedd, yn ogystal ag asiantau ac ymgynghorwyr cynllunio lleol.
Gellir gweld y ddogfen ar wefan AHNE, ac mae copïau caled ar gael ar gyfer eu harchwilio yn llyfrgelloedd cyhoeddus Sir Ddinbych.
Dylech anfon eich sylwadau at Gyngor Sir Ddinbych, sy’n cydlynu’r ymgynghoriad ar ran y tri Awdurdod Cynllunio Lleol. Gallwch gyflwyno sylwadau drwy
Borth Ymgynghori Sir Ddinbych, dros e-bost i: clwydianrangeaonb@denbighshire.gov.uk neu drwy anfon llythyr at Huw Rees, Rheolwr y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad, Blwch Post 62, Rhuthun LL15 9AZ.
Dyddiad Cychwyn y Project | 14 Mehefin 2021 |
Dyddiad Cau’r Prosiect | 09 Awst 2021 |