Bu i Esther Abelian, myfyrwraig feddygaeth yn un o brifysgolion mwyaf clodfawr y DU, groesawu pump o ddisgyblion MAT Blwyddyn 11 Ysgol Clywedog i Brifysgol Caergrawnt yn ddiweddar.
Mae Esther, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Clywedog, yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Magdalene, Prifysgol Caergrawnt, a dywedodd wrth yr ymwelwyr o’i chyn ysgol uwchradd y dylent anelu am y brig wrth wneud ceisiadau i brifysgolion.
Cafodd y pum disgybl o Glywedog oll eu hysbrydoli ar ôl cael taith o amgylch y gwahanol adrannau a cholegau.
“Byd cyfan gwbl newydd i mi”
Meddai Jack McNeil: “Dangosodd yr ymweliad â Chaergrawnt fyd cyfan gwbl newydd i mi. Dangosodd i mi sut i gyrraedd fy nodau a pha mor fawr y gall y nodau hynny fod. Fe gefais i gipolwg ar y gwaith caled sydd ynghlwm ag astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ond hefyd ar yr holl hwyl a llwyddiant y mae’n ei gynnig.”
Roedd yr ymweliad yn rhan o ddigwyddiad wedi’i drefnu i fyfyrwyr ysgolion ledled Gogledd Cymru, i roi gwybodaeth iddynt am ofynion mynediad ac astudio yn y brifysgol. Cynghorwyd y myfyrwyr hefyd ar y pynciau Safon Uwch y byddai’n rhaid iddynt eu hastudio er mwyn cael dilyn cyrsiau gradd penodol.
I helpu’r myfyrwyr gychwyn meddwl fel myfyrwyr prifysgol, cawsant gymryd rhan mewn gweithdy a gynhaliwyd yng Ngholeg Magdalene, oedd yn cynnwys gweithio mewn grwpiau ar amrywiaeth o gwestiynau a roddwyd iddynt.
Y nod oedd dangos i’r myfyrwyr sut y byddai prifysgol am iddynt fynd i’r afael â’r cwestiynau a meddwl. Wedyn, aethpwyd â’r myfyrwyr mewn grwpiau ar daith o amgylch y brifysgol, oedd yn cynnwys y neuadd ginio, y llyfrgell a’r tiroedd amgylchynol.
“Gwnaeth i mi sylweddoli sut beth ydi bywyd prifysgol”
Meddai Laura Williams: “Rydw i’n ystyried gyrfa mewn meddygaeth. Gwnaeth y trip i Brifysgol Caergrawnt i mi sylweddoli sut beth ydi bywyd prifysgol. Hefyd, fe fyddwn i rŵan yn ystyried gwneud cais i Gaergrawnt yn ogystal â phrifysgolion eraill.”
Aeth Mrs Kane, arweinydd pwnc ABCh a gyrfaoedd, gyda’r myfyrwyr ar yr ymweliad. Dywedodd: “Roedd yn ddiwrnod gwych a roddodd gipolwg drylwyr o’r brifysgol i’r myfyrwyr hyn sy’n llawn cymhelliant.
“Gwnaed yr ymweliad yn fwy arbennig byth gan mai Esther oedd yn eu hebrwng o gwmpas. Fe ddangosodd hi’r adran fioleg ac adran y gyfraith iddyn nhw, gan fod gan un o’r myfyrwyr ddiddordeb mewn meddygaeth ac un arall yn y gyfraith.
“Llwyddodd Esther i ateb eu cwestiynau a rhannu ei phrofiad ei hun o fywyd fel myfyrwraig yn y brifysgol, sy’n safbwynt amhrisiadwy. Fel un o gyn-ddisgyblion Ysgol Clywedog, mae hi’n esiampl ardderchog iddyn nhw ac mae wedi’u hannog nhw i fod yn hyderus ac anelu’n uchel.
“Mae’r myfyrwyr hyn bellach yn llawer mwy ymwybodol o’r hyn y gallant ei gyflawni, ac yn sylweddoli bod prifysgol fawreddog fel Caergrawnt o fewn eu cyrraedd.”
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN