Roedd grŵp arbennig o ymwelwyr rhyngwladol yn Wrecsam yr wythnos hon wedi dod o Himeji, Japan, a bu iddynt ymweld â Dyfrbont Pontcysyllte a Chapel Tea Rooms yn Nhrefor.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Bu i Hideyasu Kiyomoto, Maer Himej, tref yn Japan, lle mae Castell Himeji Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, dreulio amser yn ymweld â Phontcysyllte yn ystod ei ymweliad i Ogledd Cymru. Ar hyn o bryd mae Castell Himeji yn cael ei gefeillio gyda Chastell Conwy – Safle Treftadaeth Y Byd UNESCO, a gan eu bod yn y rhanbarth, roedd y grŵp Japaneaidd yn awyddus i weld ein Safle Treftadaeth Y Byd a mynd am dro ar hyd y Dyfrbont 126 troedfedd o uchder. Er gwaethaf y tywydd gwlyb, bu i bawb synnu ar olygfa Dyffryn Dyfrdwy yn y lliwiau euraidd hydrefol a treuliwyd amser yn siarad am dwristiaeth, Gogledd Cymru a Chwpan Rygbi’r Byd gyda’n Dirprwy Faer y Cynghorydd Ronnie Prince a Rheolwr Cyrchfan Joe Bickerton.
Ar ôl gweld y golygfeydd o’r ddyfrbont, cafodd pawb groeso cynnes yn Chapel Tea Rooms Pontcysyllte, lle cawsant Fara Brith a lletygarwch Cymreig, cyn symud ymlaen i ymweld â Hayakawa, y ffatri gweithgynhyrchu Japaneaidd sydd ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.
Dywedodd Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
“Roedd yn braf croesawu’r bobl o Japan i Bontcysyllte heddiw, roedd y grŵp yn teimlo’n gryf bod rhaid ymweld â’r lleoliad ar ôl clywed ei enw da byd eang. Rydym yn gweld cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr o Japan bob blwyddyn yn y safle, a dywedodd y grŵp am ba mor dda oedd Pontcysyllte a Gogledd Cymru wedi cael ei farchnata yn rhyngwladol. Un o’r prif resymau yn y cynnydd cyflym yn ein ffawd fel lleoliad i dwristiaid, yw bod Gogledd Cymru yn ganolbwynt y farchnad gwyliau antur sy’n cynyddu, ond sydd hefyd â dwy Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Dywedodd Jim Jones, Prif Swyddog Gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru a drefnodd yr ymweliad;
“Er mai prif ffocws y daith oedd gefeillio Castell Conwy a Himeji, rydym yn falch bod y grŵp wedi gallu ymweld â Wrecsam a chael profi rhan o’r Safle Treftadaeth Y Byd. Mae ein gwaith yn Japan yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at efeillio â Chonwy, ond yn ogystal mae Wrecsam a Gogledd Cymru wedi cael eu hychwanegu at deithiau ymwelwyr treftadaeth Japaneaidd o’r enw ‘The Road of Castles in Wonderland’ Rydym wedi gweithio’n galed i hyrwyddo’r ardal ac o ganlyniad mae cynnydd cyflym wedi bod yn y nifer o dwristiaid Japaneaidd sydd yn ymweld â Gogledd Cymru.”
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD