Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford
Busnes ac addysgY cyngor

Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 8, 2019 9:30 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford
RHANNU

Roedd grŵp arbennig o ymwelwyr rhyngwladol yn Wrecsam yr wythnos hon wedi dod o Himeji, Japan, a bu iddynt ymweld â Dyfrbont Pontcysyllte a Chapel Tea Rooms yn Nhrefor.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Bu i Hideyasu Kiyomoto, Maer Himej, tref yn Japan, lle mae Castell Himeji Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, dreulio amser yn ymweld â Phontcysyllte yn ystod ei ymweliad i Ogledd Cymru.  Ar hyn o bryd mae Castell Himeji yn cael ei gefeillio gyda Chastell Conwy – Safle Treftadaeth Y Byd UNESCO, a gan eu bod yn y rhanbarth, roedd y grŵp Japaneaidd yn awyddus i weld ein Safle Treftadaeth Y Byd a mynd am dro ar hyd y Dyfrbont 126 troedfedd o uchder.  Er gwaethaf y tywydd gwlyb, bu i bawb synnu ar olygfa Dyffryn Dyfrdwy yn y lliwiau euraidd hydrefol a treuliwyd amser yn siarad am dwristiaeth, Gogledd Cymru a Chwpan Rygbi’r Byd gyda’n Dirprwy Faer y Cynghorydd Ronnie Prince a Rheolwr Cyrchfan Joe Bickerton.

Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford
Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford
Ymwelwyr arbennig i weld Dyfrbont Godidog Telford

Ar ôl gweld y golygfeydd o’r ddyfrbont, cafodd pawb groeso cynnes yn Chapel Tea Rooms Pontcysyllte, lle cawsant Fara Brith a lletygarwch Cymreig, cyn symud ymlaen i ymweld â Hayakawa, y ffatri gweithgynhyrchu Japaneaidd sydd ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Dywedodd Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;

“Roedd yn braf croesawu’r bobl o Japan i Bontcysyllte heddiw, roedd y grŵp yn teimlo’n gryf bod rhaid ymweld â’r lleoliad ar ôl clywed ei enw da byd eang.  Rydym yn gweld cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr o Japan bob blwyddyn yn y safle, a dywedodd y grŵp am ba mor dda oedd Pontcysyllte a Gogledd Cymru wedi cael ei farchnata yn rhyngwladol.  Un o’r prif resymau yn y cynnydd cyflym yn ein ffawd fel lleoliad i dwristiaid, yw bod Gogledd Cymru yn ganolbwynt y farchnad gwyliau antur sy’n cynyddu, ond sydd hefyd â dwy Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Dywedodd Jim Jones, Prif Swyddog Gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru a drefnodd yr ymweliad;

“Er mai prif ffocws y daith oedd gefeillio Castell Conwy a Himeji, rydym yn falch bod y grŵp wedi gallu ymweld â Wrecsam a chael profi rhan o’r Safle Treftadaeth Y Byd.  Mae ein gwaith yn Japan yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at efeillio â Chonwy, ond yn ogystal mae Wrecsam a Gogledd Cymru wedi cael eu hychwanegu at deithiau ymwelwyr treftadaeth Japaneaidd o’r enw ‘The Road of Castles in Wonderland’  Rydym wedi gweithio’n galed i hyrwyddo’r ardal ac o ganlyniad mae cynnydd cyflym wedi bod yn y nifer o dwristiaid Japaneaidd sydd yn ymweld â Gogledd Cymru.”

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Scam Amazon Prime Fraud Rhybudd ynglŷn â thwyll Amazon
Erthygl nesaf Admin administration Job Vacancy Rhoi cymorth gweinyddol, cynllunio a darparu gweithgareddau neu gefnogi teuluoedd…mwy o’n swyddi diweddaraf!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English