Dysgu, derbyn y newyddion diweddaraf, rhwydweithio a holi cwestiynau!
Os ydych chi’n landlord, yn asiant rheoli neu os oes gennych chi ddiddordeb yn y sector rhentu preifat, mae Fforwm Landlordiaid Wrecsam yn gyfle i chi wneud y cyfan uchod.
Os oes yna newidiadau ar waith a fydd yn effeithio ar eich busnes, neu ddiweddariadau i newidiadau sydd eisoes ar waith, mae’r fforwm yn gyfle i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch trwy gyflwyniadau a sesiynau Holi ac Ateb.
Cynhelir y fforwm nesaf ar 17 Gorffennaf, 5.30pm – 7.30pm yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam.
Bydd siaradwyr o Gyngor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Rhentu Doeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfod.
Bydd cyfle i rwydweithio a mwynhau’r bwffe ar ôl y siaradwyr.
Os hoffech chi fynychu, gadewch i ni wybod, a rhowch wybod i ni os oes gennych chi anghenion deietegol, trwy anfon e-bost i healthandhousing@wrexham.gov.uk
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]