Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gallwch bellach dalu am eich bin gwastraff gardd gwyrdd ar-lein
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gallwch bellach dalu am eich bin gwastraff gardd gwyrdd ar-lein
Y cyngor

Gallwch bellach dalu am eich bin gwastraff gardd gwyrdd ar-lein

Diweddarwyd diwethaf: 2020/02/17 at 11:40 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

O heddiw ymlaen (dydd Llun, 17 Chwefror) gallwch dalu ar-lein i gael casglu gwastraff o’ch bin gardd gwyrdd. Bydd y casgliadau mae angen talu amdanynt yn cychwyn o ddydd Mercher, 1 Ebrill ymlaen. Nid oes rhaid i chi dalu heddiw ond os ydych am i ni barhau casglu eich gwastraff gardd dylid talu erbyn canol mis Mawrth

Cynnwys
“Beth sy’n digwydd os nad ydw i eisiau talu?”“Ydw i’n cael rhannu fy nghasgliad gwastraff gardd gyda chymydog?”“Dydw i ddim eisiau bin gwastraff gardd gwyrdd o hyn ymlaen”

Y gost fydd £25 fesul bin gwastraff gardd gwyrdd y flwyddyn. Mae modd talu un ai ar-lein neu dros y ffôn ar 01978 298989 i gofrestru i gael y gwasanaeth. Os ydych chi’n talu trwy PayPal, gofynnwn i chi sicrhau eich bod yn cwblhau’r trafodyn ar waelod y dudalen trwy bwyso’r botwm ‘Gorffen’

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN GWYRDD O 17 CHWEFROR

Os ydych chi’n cofrestru i barhau i gael casgliad bin gwastraff gardd gwyrdd, byddwch yn derbyn label gyda’ch cyfeiriad arno’n glir. Dylid gosod y label hon ar gaead eich bin. Bydd hyn yn helpu’r criw casglu i bennu a ydych wedi talu am y gwasanaeth neu beidio.

“Beth sy’n digwydd os nad ydw i eisiau talu?”

O 1 Ebrill, ni fyddwn yn parhau i wagio eich bin gwastraff gardd gwyrdd os nad ydych wedi talu am y gwasanaeth. Ond gallwch ddefnyddio un o’n canolfannau ailgylchu. Fel arall, efallai y byddech chi’n hoffi rhoi cynnig ar gompostio gartref.

“Ydw i’n cael rhannu fy nghasgliad gwastraff gardd gyda chymydog?”

Cewch, ond gwnewch yn siŵr bod y bin y tu allan i’r cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru.

“Dydw i ddim eisiau bin gwastraff gardd gwyrdd o hyn ymlaen”

Os ydych chi’n penderfynu nad ydych eisiau talu i’ch bin gwastraff gardd gael ei gasglu, byddwn yn dod i’w nôl ond ni fyddwn yn gwneud hynny’n syth. Gallwch wneud cais i ni ddod i’w nôl yma.

Rydyn ni’n argymell i chi ddal eich gafael arno am ychydig rhag ofn i chi newid eich meddwl a bydd angen talu am fin gwastraff gardd gwyrdd newydd os yw wedi mynd.

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydyn ni wedi cyflwyno’r ffi yma oherwydd yr heriau ariannol sy’n parhau i wynebu llywodraeth leol. Nid ni ydi’r unig awdurdod lleol i gyflwyno’r ffioedd hyn ond rydyn ni wedi’u cadw mor isel â phosib’ ac maen nhw’n is na’r rhai mae eraill yn eu codi. Gobeithiwn y byddwch chi’n parhau i ailgylchu eich gwastraff gardd gyda ni ond rydyn ni’n deall os byddwch chi’n defnyddio un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu’n compostio gartref.”

Rydyn ni wedi paratoi ychydig o gwestiynau ac atebion a allai fod o ddefnydd i chi ynglŷn â’ch casgliad bin gwastraff gardd gwyrdd.

Gallwch gael cipolwg arnyn nhw yma:

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio o 17 Chwefror

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ad Rydym yn recriwtio! Allech chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant wedi’u mabwysiadu?
Erthygl nesaf Reports of stolen and faulty items being sold at car parks in Wrexham Adroddiadau o eitemau diffygiol ac wedi’u dwyn yn cael eu gwerthu mewn meysydd parcio yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Landlords
Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall Awst 12, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 12, 2025
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English