Hoffech chi weithio gyda phobl ifanc?

Ydych chi’n frwdfrydig dros helpu ac ysbrydoli pobl i gyflawni a llwyddo?

Os felly, mae gennym ni 10 swydd yn un o’n timau ieuenctid a all fod yn berffaith ar eich cyfer chi!

Ers 2016, mae dros 1300 o ddisgyblion ysgol uwchradd wedi derbyn cefnogaeth gan brosiect 11-24 TRAC a gaiff ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint) ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae gwaith y tîm TRAC yn canolbwyntio ar godi dyheadau ac ymgysylltu â phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yn y dyfodol.

Yn sgil llwyddiant parhaus y prosiect TRAC, sicrhawyd cyllid ychwanegol er mwyn ariannu 10 aelod o staff i ymuno â’r tîm i weithio gyda chynulleidfa ehangach o bobl ifanc sydd yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, i’w paratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Mae’r swyddi uchod yn rhai dros dro tan 31 Gorffennaf 2022.

Cydlynydd Gwaith Ieuenctid,
JNC 18-21 £28,223 – £30,568 (pro rata),
42 wythnos y flwyddyn, 37 awr yr wythnos

5 swydd: Swyddog Lles,
NJC G05 £19,171 – £19,945 (pro rata),
42 wythnos y flwyddyn, 37 awr yr wythnos

2 swydd: Cwnselydd,
JNC 16-19 £26,718 – £28,972 (pro rata),
42 wythnos y flwyddyn, 18.5 awr yr wythnos

Cymhorthydd Gweinyddol,
NJC GO4 £18,426 – £18,795 (pro rata),
42 wythnos y flwyddyn, 18.5 awr yr wythnos

Swyddog Cyllid,
NJC GO6 £21,166 – £22,462 (pro rata),
42 wythnos y flwyddyn, 22.2 awr yr wythnos

Os ydych chi’n mwynhau amgylchedd gwaith ddynamig ac yn frwdfrydig am gefnogi pobl ifanc i oresgyn eu rhwystrau a chyflawni eu potensial yna byddem ni wrth ein boddau’n clywed gennych. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio gyda phobl ifanc, dealltwriaeth dda o’r system addysg leol, yn berchen ar gerbyd eu hunain ac yn gallu teithio ar draws Sir Wrecsam a Sir y Fflint fel rhan o’u gwaith dyddiol.

I wneud cais

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we neu, os hoffech chi gael pecyn cais, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt, Stryt yr Arglwydd, Wrecsam, LL11 1LG neu ffonio: 01978 292012 or email schoolshrservicecentre@wrexham.gov.uk

Dylid dychwelyd y ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r Ganolfan Gwasanaethau AD,
Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Ariennir y swyddi uchod gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, fel rhan o’r prosiect ‘TRAC’ 11-24 oed ehangach sy’n weithredol ar draws Gogledd Cymru.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

COFRESTRWCH FI RŴAN