NYTH Cymru, Nwy Prydain ac Ysgol Clywedog… nid enwau yr ydych yn disgwyl eu gweld gyda’i gilydd.
Ond, maent wedi cyfuno fel rhan o’r rhaglen Dosbarth Busnes, sy’n gweithio er mwyn rhoi’r cyfleoedd bywyd gorau i bobl ifanc.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i ysgolion weithio gyda busnesau i sicrhau bod y cwricwlwm maent yn ei ddarparu a’r ffordd y cânt eu rhedeg yn rhoi’r cyfle gorau i ddisgyblion ddeall a phrofi’r byd busnes a rhoi sgiliau iddynt a fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar eu dyfodol.
I wneud hyn, maent yn defnyddio’r ‘Pedwar Piler’ – pedwar maes gwahanol sy’n golygu bod disgyblion a staff yn cael y mwyaf ohono.
Arweinyddiaeth a llywodraethu – dyma’r piler sy’n rhoi cyfle i’r ysgol wneud y mwyaf o gynllunio busnes a datblygu sgiliau newydd. Gall arweinwyr busnes eistedd ar fwrdd llywodraethwyr yr ysgol a rhannu sesiynau hyfforddi a dulliau rheoli.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Y cwricwlwm – mae’r piler hwn yn edrych ar gynyddu cyflawniad gyda chefnogaeth ar draws nifer o bynciau yn cynnwys rhifedd, llythrennedd, TGCh, Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a Bagloriaeth Cymru. Er enghraifft, os mai’r nod yw cynyddu’r nifer o ferched sy’n astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a thu hwnt, gallent wneud prosiectau i ddangos sut y byddai’r pynciau hynny’n berthnasol i’r byd go iawn, tu allan i’r ysgol.
Menter a chyflogadwyedd – mae’r cam hwn yn cynnig cefnogaeth i ddisgyblion fel eu bod yn barod ar gyfer y gweithle. Gall y problemau sydd angen mynd i’r afael a nhw gynnwys, diffyg dyheadau neu fylchau mewn sgiliau allweddol megis datrys problemau, cyfathrebu neu arweinyddiaeth. Bydd y rhaglen hon yn edrych ar ddarparu lleoliadau gwaith, mentora grwpiau o ddisgyblion penodol, gweithredu fel modelau rôl a chynnal gweithdai a heriau i wella sgiliau cyflogadwyedd.
Materion ehangach – Yn olaf, bydd y busnes a’r ysgol yn cyd-weithio ar unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r ysgol. Gall hyn amrywio o bresenoldeb, ennyn diddordeb rhieni i ddiwylliant ysmygu. Gall gefnogaeth ddod o fynychu nosweithiau rhieni neu ddiwrnodau pontio ysgolion cynradd, neu ddarparu gweithdai ar iechyd a lles.
Ar y cyfan, mae’r rhaglen hwn yn gweithio gyda’r ysgol i fodloni anghenion penodol disgyblion, gwella eu dealltwriaeth o’r byd gwaith a’u hymwybyddiaeth o ddewisiadau gyrfaoedd, a gwella eu sgiliau cyflogadwyedd.
Dywedodd y Pennaeth Matthew Vickery, ‘Rydym yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ac o gyd-weithio gyda NYTH Cymru a Nwy Prydain. Rydym yn cynllunio’r digwyddiadau cyntaf yn barod ar gyfer eleni, ac yn edrych ymlaen at y bartneriaeth a’r cyfleoedd sy’n deillio ohoni.’
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU