Mae Wrecsam Egnïol yn adran yn y cyngor sydd â’r nod o sicrhau bod preswylwyr Wrecsam yn fwy egnïol.
Os byddwch chi’n gweld deunydd hyrwyddo ar gyfer sesiynau nofio am ddim – Wrecsam Egnïol yw’r rhain.
Os byddwch chi’n gweld sesiynau ymarfer corff am ddim i bobl dros 60 oed – Wrecsam Egnïol yw’r rhain.
Mae llawer o ffyrdd o fod yn egnïol, a nod Wrecsam Egnïol yw rhoi cyfle i breswylwyr roi cynnig ar gynifer ag sy’n bosibl.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r tîm hefyd yn mynd i mewn i ysgolion i weithio gyda disgyblion, a’r llynedd, bu disgyblion Ysgol Gynradd Cefn Mawr yn gweithio gyda nhw i fod yn egnïol mewn ffyrdd newydd, llawn hwyl. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth a gwyliwch y fideo isod i weld beth yw barn yr athrawon a’r disgyblion.
Ar ddechrau’r flwyddyn, rhoddodd Wrecsam Egnïol fynediad i athrawon yr ysgol i Create. Mae Create yn system sy’n caniatáu i blant wneud ymarfer corff yn annibynnol yn eu gwersi Addysg Gorfforol, a datblygu eu ffitrwydd wrth iddynt weithio trwy’r rhaglen. Mae’n cynnwys cydsymud a symudiad, gan ganolbwyntio ar ystwythder, cydbwysedd a rheolaeth. Ers i’r ysgol ddechrau ei ddefnyddio’r llynedd, mae wedi’i wneud yn rhan o’r cwricwlwm.
Yn ogystal â defnyddio Create, Aeth Wrecsam Egnïol i chwilio yn eu storfeydd a mynd â’r offer Ffrisbi Golff newydd i’r ysgol ei ddefnyddio, ac mae Derwyddon Cefn wedi bod i mewn i’r ysgol i ddarparu sesiynau llythrennedd corfforol. Yn olaf, dychwelodd aelodau staff Wrecsam Egnïol i’r ysgol i ddarparu cwrs i ddisgyblion blwyddyn 5, gan ddangos iddynt sut i addysgu gemau difyr i’w chwarae ar y buarth chwarae i ddisgyblion eraill.
Dywedodd y Cyng. Parry-Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae Wrecsam Egnïol wedi rhoi persbectif newydd sbon i sesiynau Addysg Gorfforol yn Ysgol Gynradd Cefn Mawr. Mae’n wych gweld y plant yn rhoi cynnig ar chwaraeon newydd a dysgu sgiliau newydd, yn ogystal â’r ymateb cadarnhaol gan staff a rhieni.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL