Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgolion ffederasiwn Dyffryn Ceiriog ar ben eu digon wedi arolygiad diweddar
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ysgolion ffederasiwn Dyffryn Ceiriog ar ben eu digon wedi arolygiad diweddar
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Ysgolion ffederasiwn Dyffryn Ceiriog ar ben eu digon wedi arolygiad diweddar

Diweddarwyd diwethaf: Medi 25, 2023 2:21 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ysgolion ffederasiwn Dyffryn Ceiriog ar ben eu digon wedi arolygiad diweddar
RHANNU

Bu arolygwyr ysgolion yn ymweld ag Ysgol Cynddelw (ffrwd ddeuol Cymraeg a Saesneg) ac Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog (ffrwd Gymraeg) yn ffederasiwn Dyffryn Ceiriog ym mis Gorffennaf eleni a rhoesant adroddiad eithriadol o gadarnhaol, gan gynnwys y sylwadau canlynol:

  • Mae’r ysgol yn gymuned ofalgar a chynhwysol sy’n hyrwyddo lles y disgyblion a’r staff yn llwyddiannus dros ben. 
  • Gyda chefnogaeth frwdfrydig y staff, mae’r pennaeth wedi creu gweledigaeth eglur a chadarn.
  • Mae arweinwyr yn weithgar dros ben wrth sicrhau bod pob aelod o staff yn cydweithio’n effeithiol i wella ansawdd y ddarpariaeth i ddisgyblion.
  • Mae disgyblion yn mwynhau’r amrywiaeth o brofiadau ysgogol a difyr a ddarperir iddynt.
  • Yn y ddwy ffrwd mae llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn gwneud cynnydd gwerth chweil yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
  • Mae disgyblion yn y ddwy ffrwd yn darllen yn ddeallus mewn amryw gyd-destunau.
  • Yn y ddwy ffrwd, mae sgiliau ysgrifennu cynnar y disgyblion ieuengaf yn datblygu’n dda.
  • Gydol yr ysgol, mae’r rhan helaeth o ddisgyblion yn datblygu sgiliau mathemateg cadarn ac yn defnyddio strategaethau rhifo syml yn gywir.
  • Gydol yr ysgol, mae sgiliau creadigol bron yr holl ddisgyblion yn datblygu’n fedrus. Er enghraifft, mae’r disgyblion ieuengaf yn datblygu eu sgiliau’n effeithiol drwy ddefnyddio amrywiaeth o offer a defnyddiau wrth greu darnau celf a chrefft i’w cyflwyno yn Eisteddfod Glyn Ceiriog.
  • Mae athrawon yn hyrwyddo dysg y disgyblion drwy gasglu eu syniadau a’u diddordebau.

Sylwodd yr arolygwyr hefyd ar y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud ym maes y Gymraeg a diwylliant Cymru:

  • Mae cwricwlwm yr ysgol wedi’i wreiddio’n gadarn yn ardal leol neu gynefin y disgyblion. Mae’r staff yn cynllunio cyfleoedd buddiol i’r disgyblion ddysgu am hanes a thraddodiadau Cymru, a hefyd yn hyrwyddo eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel rhan o ddiwylliant bywiog a chyfoes eu hardal leol.
  • Drwy themâu ysgogol, mae’r athrawon yn datblygu dealltwriaeth y disgyblion o’u hunaniaeth, treftadaeth a diwylliant Cymru.
  • Mae’r staff yn hyrwyddo Cymreictod y disgyblion yn effeithiol dros ben ymhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Er enghraifft, mae’r disgyblion yn mwynhau cystadlu yn eisteddfod yr ysgol ac Eisteddfod Glyn Ceiriog. Darperir cyfleoedd gwerthfawr hefyd i ddisgyblion yn y ddwy ysgol gystadlu fel ffederasiwn yn Eisteddfod yr Urdd yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Mae’r ysgol yn darparu amrywiaeth o glybiau a gweithgareddau difyr sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm ac yn darparu cyfleoedd cymdeithasol a phwrpasol i ddisgyblion.
  • Mae’r staff yn darparu amrywiaeth gyfoethog o brofiadau sy’n annog y disgyblion i ddefnyddio’u dychymyg yn greadigol. Er enghraifft, ar ôl gweithio ar y bardd Hedd Wyn, buont yn dylunio a chreu cadeiriau eisteddfodol o glai.
  • Daeth rhieni i ‘brynhawn paned a theisen’ yn ddiweddar a gynhaliwyd â’r nod o hybu eu sgiliau Cymraeg fel y gallent gefnogi datblygiad sgiliau iaith eu plant gartref.

Meddai Pennaeth yr ysgol, Lora Sockett: “Mae’r adroddiadau arolygu’n ardderchog ac rydyn ni i gyd yn arbennig o falch. Mae’n dyst i waith caled y staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr a’r llywodraethwyr, nid yn unig yn ystod yr arolygiad ond ar hyd y blynyddoedd diwethaf hefyd. Rydyn ni’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi sylwi ar rinweddau unigryw’r ddwy ysgol a’n bod hefyd yn gweithio’n llwyddiannus fel ffederasiwn.”

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Cynddelw, Carys Davies: “Mae’r adroddiadau hyn yn dangos fod safon yr addysg a’r gofal a ddarperir yn Ysgol Cynddelw ac Ysgol Llanarmon yn gyson uchel. Mae’r plant sy’n mynychu ysgolion y Ffederasiwn yn cael profiadau dysgu cyfoethog ac yn cael y gefnogaeth unigol angenrheidiol i’w helpu i lwyddo yn Gymraeg a Saesneg. Mae Dyffryn Ceiriog yn arbennig o ffodus i gael ysgolion o’r fath safon uchel.”

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rwy’n eithriadol o falch o’r adroddiad hwn. Mae ymdrechion tîm yr ysgol wedi sicrhau arolygiad cadarnhaol gan Estyn ac mae’n fendigedig hefyd gweld cymaint o ofal a sylw a roddir i ddatblygu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y disgyblion o’r Gymraeg a’n diwylliant ni. Da iawn, bawb!”

TAGGED:wrexhamysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol Golau Gwyrdd ar gyfer Prosiect Amgueddfa Mawr Golau Gwyrdd ar gyfer Prosiect Amgueddfa Mawr
Erthygl nesaf y comisiwn ethaliadol Mae yno 400,000 – ydych chi’n un ohonynt?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English