Mae nifer o bobl heddiw yn wynebu dod yn ddigartref ond ni allant gael tai yn y sector rhentu preifat oherwydd eu sefyllfa ariannol.
Er mwyn helpu rydym wedi sicrhau dros £2.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu’r rhai yn y sefyllfa hon.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd yr arian yn caniatáu i ni sicrhau prydlesau hirdymor ar eiddo a’u gwneud ar gael i’r rhai sydd angen tai.
Bydd cymorth ariannol ar ffurf grantiau ar gael i landlordiaid i helpu i wella eu heiddo ac incwm rhenti wedi ei warantu.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai, “Mae hyn yn newyddion gwych yn arbennig i’r aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau na allant gael tŷ yn y sector rhent preifat oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.”
“Mae atal digartrefedd o bob math yn flaenoriaeth i ni a bydd yr arian hwn yn rhoi adnodd ychwanegol sylweddol i helpu i atal a lleddfu digartrefedd ledled y fwrdeistref.”
“Rydym yn edrych am amrywiaeth o eiddo o wahanol fathau a maint, yn arbennig cartrefi i bobl sengl a theuluoedd mwy, ym mhob rhan o’r fwrdeistref.
Bydd yr eiddo yn cael eu rheoli gan ein hasiantaeth gosod tai lleol mewnol sydd wedi bod yn gweithredu ers 2015, gan weithio gyda landlordiaid i helpu i greu tenantiaethau cynaliadwy ar gyfer aelwydydd gydag angen o ran tai a gwella safonau ar draws y fwrdeistref.
I gael mwy o wybodaeth dylai landlordiaid sydd â diddordeb gysylltu â’n tîm asiantaeth gosod tai lleol trwy anfon e-bost i locallettings@wrexham.gov.uk
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH