Wrth i ddynesu at ddiwrnod pleidleisio etholiadau lleol rydym yn annog pawb i ddefnyddio eu pleidlais a threfnu i fynd i’r orsaf bleidleisio ar 5 Mai.
Rydym hefyd yn gofyn i chi barhau i fod yn ymwybodol nad yw Coronafeirws wedi diflannu felly mae angen i ni fod yn ofalus pan awn i bleidleisio.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
- Mae Cymru ar Rybudd Lefel Sero, fodd bynnag mae iechyd a lles holl staff, ymgeiswyr a phleidleiswyr yn hynod o bwysig. Gyda hyn mewn cof mae’r Swyddog Canlyniadau yn gweithredu’r canlynol i leihau’r risg o ledaenu Coronafeirws yn y gorsafoedd pleidleisio: Sgriniau plastig, weips, chwistrell wrthfacteria a hylif diheintio dwylo ym mhob gorsaf.
- Bydd mygydau untro ar gael i’w defnyddio.
- Gofynnir i bleidleiswyr ddod a’u beiro/pensil eu hunain ond bydd cyflenwad o bensiliau ar gael a fydd yn cael eu diheintio ar ôl eu defnyddio.
- Bydd bob man cyffwrdd yn cael eu diheintio, gan gynnwys y blychau pleidleisio.
- Bydd gorchuddion wyneb yn ddewis personol i staff a phleidleiswyr.
- Hefyd bydd posteri yn hysbysu pleidleiswyr i beidio â mynd i’r orsaf bleidleisio gyda symptomau Coronafeirws.
Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau, “Mae nifer ohonom bellach wedi dychwelyd i’n bywyd arferol gan fod cyfyngiadau Covid wedi eu codi ond mae angen i bawb fod yn ystyrlon fod Coronafeirws yn dal i ledaenu ac yn parhau i fod yn risg i rai unigolion.
“Dilynwch y canllawiau uchod er mwyn sicrhau bod yr etholiad yn cael ei gynnal gyda’r risg isaf i bawb sy’n mynd i orsaf bleidleisio.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH