Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Chwalu 5 myth am gynghorau…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Chwalu 5 myth am gynghorau…
Y cyngor

Chwalu 5 myth am gynghorau…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2017 11:26 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Common myths about local government
RHANNU

Gyda gwasanaethau cyhoeddus dydi hi ddim bob amser yn hawdd gwybod pwy sy’n gyfrifol am be’.

Cynnwys
  • 1. Nhw sy’ biau’r siopau i gyd
  • 2. Nhw sy’ biau’r meysydd parcio i gyd
  • 3. Nhw sy’n gyfrifol am ardrethi busnes
  • 4. Nhw sy’n gwneud y gwaith ffordd i gyd
  • 5. Maen nhw’n caru biwrocratiaeth

Sy’n golygu fod pobl weithiau’n meddwl fod eu cyngor yn gyfrifol am bethau does ganddyn nhw ddim rheolaeth o gwbl drostyn nhw.

Dyma chwalu pum myth cyffredin (o leia ‘da ni’n meddwl eu bod nhw’n fythau cyffredin.

1. Nhw sy’ biau’r siopau i gyd

Yn Wrecsam (a’r rhan fwyaf o drefi a dinasoedd eraill) mae’r rhan fwyaf o siopau – gan gynnwys y rhai mawr – yn eiddo i landlordiaid. Nhw sy’n gosod y rhent ac yn penderfynu i bwy i’w rhentu.

Oni bai fod rheswm deddfwriaethol fel rheoliadau cynllunio neu adeiladu, ni all cynghorau ymyrryd fawr ddim o ran yr hyn y mae landlordiaid masnachol yn ei wneud gyda’u heiddo.

2. Nhw sy’ biau’r meysydd parcio i gyd

Yn Wrecsam mae’r cyngor yn berchen ar lawer o feysydd parcio – y rhan fwyaf yng nghanol y dref – ond mae rhai yn cael eu rheoli’n breifat hefyd.

Dim ond ar gyfer ein meysydd parcio ein hunain y byddwn ni’n penderfynu ar brisiau parcio – mae’r rhain yn cynnwys Byd Dŵr, Llyfrgell Wrecsam ac Eglwys San Silyn.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

3. Nhw sy’n gyfrifol am ardrethi busnes

Dim o gwbl. Mae’n hawdd deall pam fod pobl yn meddwl mai cynghorau sy’n rheoli ardrethi busnes, ond mewn gwirionedd y Swyddfa Brisio sy’n eu gosod, sef un o asiantaethau cenedlaethol y llywodraeth.

Bydd cynghorau’n casglu’r arian gan fusnesau lleol ac yn ei dalu i mewn i gronfa ganolog. Bydd y llywodraeth ganolog wedyn yn ei rannu ymysg cynghorau er mwyn helpu i dalu am wasanaethau cyhoeddus.

4. Nhw sy’n gwneud y gwaith ffordd i gyd

Yn y rhan fwyaf o lefydd, yr Asiant Gefnfyrdd chenedlaethol neu rhanbarthol sy’n cynnal a chadw cefnffyrdd mawr fel yr A483 (ffordd osgoi Wrecsam).

O ddifri ……nid ni sy’n gofalu am y priffyrdd mawr yma. Ond ‘da ni yn gofalu am y rhan fwyaf o’r ffyrdd eraill yn ein hardal, gan gynnwys ffyrdd A a B.

5. Maen nhw’n caru biwrocratiaeth

Wel… mae’n debyg bod modd dadlau am hyn.

Mae’n siŵr ei bod yn wir dweud y gall cynghorau fod yn fiwrocrataidd dros ben, ond weithiau does ganddyn nhw ddim dewis. Mae deddfwriaeth a rhwymedigaethau eraill yn golygu fod yn rhaid iddyn nhw wneud popeth mor gywir â phosibl.

Ar y llaw arall does dim dwywaith y gallai cynghorau fod yn fwy slic a chyflym gyda rhai o’u prosesau a ‘da ni’n gweithio’n galed drwy’r amser i wneud pethau’n haws i’n cwsmeriaid.

Felly dyna chi – pum myth cyffredin am gynghorau….wedi’u chwalu.

Mae’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam ar gael o Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy
Erthygl nesaf Awydd gyrfa mewn gofal cymdeithasol? Prentisiaethau ar gael rŵan Awydd gyrfa mewn gofal cymdeithasol? Prentisiaethau ar gael rŵan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English