Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sgoriwch gôl, serfiwch âs… mwy o bethau llawn hwyl i blant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sgoriwch gôl, serfiwch âs… mwy o bethau llawn hwyl i blant
ArallPobl a lle

Sgoriwch gôl, serfiwch âs… mwy o bethau llawn hwyl i blant

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 5, 2018 12:44 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Council Bellevue Park
RHANNU

Mae gwyliau’r haf yn nesáu. Sy’n golygu y bydd gan blant lwythi o egni i’w ryddhau rhywsut. Maen nhw angen rhedeg, maen nhw angen chwarae, maen nhw angen.. blino eu hunain!

Cynnwys
  • Darganfod y Federer oddi fewn
  • ‘Dw i angen raced llai
  • Clefyd Cwpan y Byd
  • Gwnewch ‘slam dunk’ hefyd?

Ond sut?

Wel, mae diwrnod llawn hwyl i’w gael mewn un parc lleol. Gwerth mwy na diwrnod i fod yn onest…

Ond mae’n rhaid i chi baratoi cyn dod. Pêl-droed, racedi a pheli tennis, pêl-fasged, batiau a pheli tennis bwrdd. Gallwch chi benderfynu pa un..

Dyma sut i flino’r plant ym Mharc Bellevue.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Darganfod y Federer oddi fewn

Efallai mai prif emau Parciau Bellevue yw’r cyrtiau tennis wedi eu hailwampio yn ddiweddar. Mae pump yno, felly byddech yn anlwcus i beidio â dod o hyd i gwrt rhydd ac maent yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd.

Felly os oes gennych ddarpar Roger Federer, Rafa Nadal neu Serena Williams yn eich teulu, cewch amser gwerth chweil. Dyma drît go iawn iddyn nhw!

‘Dw i angen raced llai

Yn cuddio’r ochr arall i’r cyrtiau tennis mae bwrdd tennis am ddim i’w ddefnyddio. Os nad ydynt wedi meistroli tennis eto, dyma ffordd wych i ddechrau. Am faint y gallwch gynnal rali â nhw?

Gosodwch darged a gwelwch os allwch ei guro.

Wrexham Council Bellevue Park Sports
Sgoriwch gôl, serfiwch âs... mwy o bethau llawn hwyl i blant
Sgoriwch gôl, serfiwch âs... mwy o bethau llawn hwyl i blant

Clefyd Cwpan y Byd

Aaa, y gêm hyfryd! Gadewch iddyn nhw fyw fel eu harwyr ar gae pêl-droed maint llawn. Ronaldo yn erbyn Messi? Neu fab neu ferch yn erbyn dad neu mam? Dim ots – chi sy’n pennu’r rheolau! Caiff gemau clybiau lleol eu cynnal yno ar benwythnosau o bryd i’w gilydd, ond mae croeso i chi eu gwylio.

Helpwch nhw i wella eu sgiliau a chadw’n heini ar yr un pryd. Mae pawb yn enillwyr… wel, mewn gwirionedd dim ond un tîm sy’n gallu ennill, oni bai ei fod yn gyfartal … ‘da chi’n gwybod be ‘da ni’n feddwl.

Gwnewch ‘slam dunk’ hefyd?

Os ydych ffansi ychydig o amser hongian, beth am gêm o bêl-fasged tra rydych yno. Mae cwrt pêl-fasged/a chae 5-bob-ochr y drws nesaf i’r cyrtiau tennis, felly os yw eich plant yn fwy o Michael Jordan na Michael Owen gall hwn fod yn opsiwn da.

Beth bynnag yr ydych yn dewis ei wneud, mae digon o adloniant ar eu cyfer ym Mharc Bellevue.

Be arall? Caiff digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer bob oedran eu trefnu trwy gydol y flwyddyn.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar brif wefan Cyngor Wrecsam.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hei... dyma gyfle i ennill tocynnau ar gyfer O Dan y Bwau (a ydych chi’n gweld y darlun llawn?) Hei… dyma gyfle i ennill tocynnau ar gyfer O Dan y Bwau (a ydych chi’n gweld y darlun llawn?)
Erthygl nesaf Mae chwedl y Brenin Arthur yn dod i Wrecsam ... Mae chwedl y Brenin Arthur yn dod i Wrecsam …

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English