Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Plas Pentwyn yn ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Plas Pentwyn yn ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd
FideoPobl a lle

Plas Pentwyn yn ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 19, 2018 11:47 am
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol i barc neu fan gwyrdd o safon.

Mae cyfanswm o 112 o fannau gwyrdd cymunedol yng Nghymru wedi cyrraedd y safon uchel y mae angen ei chyrraedd i dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd (101 yn 2017/18). Mae’r safleoedd hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal a chadw eu cyfleusterau gwych.

Bydd y faner yn chwifio yng Nghanolfan Adnoddau Gymunedol Plas Pentwyn i gydnabod ei chyfleusterau rhagorol a’i hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o safon.

Dywedodd y prif wirfoddolwr, Moira Taylor, “Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y faner werdd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Diolch yn fawr i blant Ysgol Gynradd Penygelli sy’n dod bob wythnos i helpu yn yr ardd gymunedol. Diolch hefyd i gymuned gyfan Coedpoeth am eu cyfraniadau ac am brynu ein planhigion, sy’n helpu i ariannu’r prosiect.”

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Plas Pentwyn Community Garden Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Krista Childs, “Mae’r gwirfoddolwyr ym Mhlas Pentwyn yn gweithio mor galed ac maen nhw wir yn haeddu’r wobr. Mae’r gerddi cymunedol yn lle hyfryd. Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith.”

Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei darparu yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae safleoedd yr ymgeiswyr yn cael eu beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â nhw a’u hasesu yn ôl wyth maen prawf caeth, sy’n cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a rhan y gymuned yn y gwaith.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd, Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydyn ni mor falch o fod yn dathlu blwyddyn arall o dorri’r record am Wobrau Baneri Gwyrdd yng Nghymru. Mae’r holl faneri sy’n chwifio mewn safleoedd cymunedol yn brawf o ymroddiad a brwdfrydedd gwirfoddolwyr lleol sy’n gweithio’n ddiflino i wella safon ein mannau gwyrdd.

 “Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r cyfleusterau gwych sydd gennym ni.”

Y safleoedd eraill yn y fwrdeistref sirol sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sy’n gwobrwyo mannau cyhoeddus yng ngofal sefydliadau fel eglwysi, ysgolion, grwpiau cymunedol ac eraill, yw:

  • Maes y Pant, Chwarel Merffordd
  • Eglwys y Santes Fair, y Waun

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus

Gallwch chi roi eich parc neu’ch man gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i gael mwy o wybodaeth.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol "Newid pwysig i Wrecsam" - cyngor yn croesawu datganiad am hwb trafnidiaeth newydd “Newid pwysig i Wrecsam” – cyngor yn croesawu datganiad am hwb trafnidiaeth newydd
Erthygl nesaf Ydych chi'n chwilio am hwyl i'r teulu yr haf hwn? Edrychwch ar hwn... Ydych chi’n chwilio am hwyl i’r teulu yr haf hwn? Edrychwch ar hwn…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English