Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr
Pobl a lleY cyngor

Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr

Diweddarwyd diwethaf: Awst 9, 2018 12:42 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr
RHANNU

Mae preswylwyr mewn tai gwarchod yn Wrecsam yn mwynhau gardd ffrwythau a llysiau newydd yn sgil ymdrechion gwirfoddolwyr o Cyfle Cymru.

Cynnwys
  • “Diolch o waelod calon”
  • “Ymdrech enfawr”

Gweithiodd y grŵp yn y gwres tanbaid i balu a hau llain lysiau newydd i drigolion Uned Tai Gwarchod Springfield yn Rhosddu.

Mae’r tenantiaid yn gobeithio cael llwyth toreithiog ar ôl i’r grŵp godi’r gwair, palu dros yr uwchbridd a phlannu cnydau yn y gwely newydd.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dan arweiniad elusen CAIS, mae Cyfle Cymru yn brosiect mentora cymheiriaid sydd yn cael ei ariannu gan yr UE sydd yn cefnogi pobl sydd â hanes o gamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl – ac yn rhoi cyfleoedd gwirfoddoli iddynt, mynediad at hyfforddiant a’u helpu i ddod o hyd i waith.

“Diolch o waelod calon”

Roedd warden Springfield, Melanie Child yn canmol proffesiynoldeb y gwirfoddolwyr a dywedodd ei bod yn gobeithio eu croesawu nôl ar gyfer rhagor o waith caled yn y dyfodol agos.

Dywedodd: “Mae pob un ohonom yma yn Springfield yn diolch o waelod calon i Cyfle Cymru am eu hymdrechion yn creu ein llain llysiau”.

“Am waith tîm cymunedol gwych – ac mae’n edrych yn hynod broffesiynol hefyd.  Rydym ni wirioneddol yn ei werthfawrogi, ac yn gobeithio nad hwn fydd y tro olaf i ni eu gweld.

“Fe wnaethant ymddwyn yn wych.  Roeddynt yn gwrtais, ac yn ystyrlon o’n tenantiaid – ac yn bwysicach na dim, roeddynt yn frwdfrydig.”

“Ymdrech enfawr”

Fe weithiodd George James arweinydd cynorthwyol fel mentor cymheiriaid ar brosiect Springfield ochr yn ochr â nifer o bobl sydd yn gobeithio gwella eu sgiliau a rhoi hwb i’w CV cyn symud ymlaen at waith.

“Fe roddodd ein gwirfoddolwyr ymdrech enfawr i wneud y gwaith yma ar gyfer aelodau hŷn o gymuned Rhosddu,” meddai.

“Gobeithio y bydd preswylwyr Springfield yn mwynhau gweld eu llysiau’n tyfu ac yn gallu mwynhau ffrwyth ein llafur”.

Hyd yn hyn, mae mwy na 4,700 o bobl wedi derbyn cefnogaeth gan fentoriaid cymheiriaid Cyfle Cymru trwy gydol gogledd Cymru, Gwent, Dyfed, Powys ac ardaloedd Bae’r Gorllewin.

Gyda’i gilydd, mae’r tîm wedi cyflwyno mwy na 71,000 awr o gefnogaeth, a helpu mwy na 1,000 o bobl i ennill cymhwyster neu dystysgrif newydd.  Mae mwy na 600 o bobl wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau gwirfoddoli, gan wneud cyfraniad sylweddol i gymunedau ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam: “Dwi’n gwybod y bydd preswylwyr Springfield yn gwerthfawrogi gwaith y gwirfoddolwyr gyda Cyfle Cymru, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar – yn enwedig mewn gwres mor llethol!”

Gallwch ddysgu mwy am raglen Cyfle Cymru trwy fynd i www.dacw.co.uk/about-cyfle-cymru, drwy ffonio 0300 777 2256, anfon e-bost ask@cyflecymru.com neu chwiliwch am Cyfle Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Grwpiau chwaraeon - dyma'ch cyfle am arian! Grwpiau chwaraeon – dyma’ch cyfle am arian!
Erthygl nesaf Wrecsam Cyffredinol Wrexham General Hwb o £500,000 i’r rheilffordd yn cael ei groesawu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English