Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathliadau Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Cyhoeddi’r Manylion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dathliadau Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Cyhoeddi’r Manylion
ArallPobl a lleY cyngor

Dathliadau Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Cyhoeddi’r Manylion

Diweddarwyd diwethaf: Awst 16, 2018 2:15 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Dathliadau Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Cyhoeddi’r Manylion
RHANNU

Nodwyd ym mis Mai ein bod yn bwriadu dathlu 100 mlynedd yr Awyrlu Brenhinol drwy roi Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru.

Ers hynny mae gwaith wedi bod ar y gweill y tu ôl i’r llenni i gynllunio digwyddiad yng nghanol y dref er mwyn i bawb ei fwynhau ac mae’r trefnwyr eu hunain wedi synnu faint fydd yn digwydd!

Rhoddir Rhyddid y Fwrdeistref Sirol ddydd Mercher 22 Awst yng nghyfarfod llawn y Cyngor. Bydd y dathliadau cyhoeddus yn dechrau ddydd Iau 23 Awst pan ddadorchuddir plac coffáu Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol yng ngerddi coffa’r Awyrlu Brenhinol ar Sgwâr y Frenhines.  Bydd awyren Hercules hefyd yn hedfan dros y safle am 12 canol dydd.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Cynhelir y prif ddathliad ar 25 Awst pan fydd digwyddiadau ac adloniant am ddim ar draws canol y dref a fydd yn apelio at bobl o bob oedran a chefndir.

“Hedfan Dakota”

Cynhelir digwyddiad Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol ei hunan yn Llwyn Isaf, a bydd yn ddigwyddiad arbennig iawn gydag awyren yr Awyrlu Brenhinol yn y safle canolog ar y maes gyda chyfleusterau arlwyo a lluniaeth o’i hamgylch, stondinau lluoedd arfog, efelychwr hedfan, panel offer Spitfire, oll ar gael i ddiddanu pawb a gyda cherddoriaeth o safle’r seindorf.  Bydd digwyddiad arbennig i’r dyrfa ar ffurf Mwstro’r Awyrlu Brenhinol gan bersonél yr Awyrlu Brenhinol, ynghyd â Sgwadron Cadetiaid Awyr lleol a chyn-filwyr, a rhoddir y saliwt gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams.  Bydd seremoni Mwstro’r Awyrlu Brenhinol yn dechrau am 2.25pm ac uchafbwynt y prynhawn fydd yr Awyren Dakota yn hedfan uwchben oddeutu 3.17pm.

“Gŵyl Stryd yn ymuno â thema hynafol ar gyfer dathliadau’r Awyrlu Brenhinol”

Ar yr un pryd â’r dathliadau Rhyddid bydd llawer o hwyl ar Sgwâr y Frenhines a’r strydoedd cyfagos gyda Gŵyl Stryd Awst yn cael ei chynnal.  Mae’r trefnwyr wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y bydd yn ategu at ddigwyddiad Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol gyda thema hynafol i’r teulu cyfan ei fwynhau – bydd stondinau arferol, diddanwyr, atyniadau a nifer o siopau a marchnadoedd annibynnol i bori drwyddynt.

“Ac mae mwy…”

Cynhelir arddangosfeydd arbennig hefyd – un ar safle Techniquest a fydd ar agor o ddydd Iau 23 Awst i ddangos Arddangosfa Hanesyddol yr Awyrlu Brenhinol.

Cynhyrchwyd yr arddangosfa gan haneswyr yr Awyrlu Brenhinol a bydd yn cynnwys arddangosfeydd am hanes Gorsaf yr Awyrlu Brenhinol a fu yn Wrecsam yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

Bydd hefyd yn cynnwys arddangosfeydd am bobl o Wrecsam sydd wedi gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol gyda rhagoriaeth – mae hyn yn cynnwys arbenigwyr brwydrau’r ail Ryfel Byd,  Awyr-Lefftenant David Lord, y cyflwynwyd Croes Fictoria iddo ar ôl iddo farw wrth hedfan dros Arnhem ym 1944, ynghyd ag eraill o Wrecsam a oedd yn bwysig mewn digwyddiadau eraill yn ystod y rhyfel, yn amrywio o’r Ddihangfa Fawr i gyrch enwog yr Awyrlu Brenhinol ym 1943 ar safle rocedi cyfrinachol yr Almaen, Peenumunde.

Fel rhan o Arddangosfa Hanesyddol yr Awyrlu Brenhinol, bydd yr Awyrlu Brenhinol hefyd yn darparu cydweithwyr o’r Archifau Cenedlaethol a all eich cynorthwyo i ddysgu mwy am berthnasau a fu’n gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol dros y 100 mlynedd diwethaf.

Bydd Techniquest hefyd yn cynnal nifer o arddangosfeydd gwyddoniaeth a thechnoleg rhyngweithiol a fydd yn hwyl i’r rhai ifanc – a’r rhai sydd ychydig yn hŷn hefyd.

“Lluniau pwerus yn Nhŷ Pawb”  

Bydd Tŷ Pawb hefyd yn ymuno â’r dathlu gydag arddangosfa o luniau o’r enw “Equipped for Life” sy’n dangos darluniau pwerus o’r anawsterau y mae personél y lluoedd arfog wedi’u hwynebu wrth adael y gwasanaeth.  Mae darluniau pwerus a straeon llawn ysbrydoliaeth ac mae’n rhaid ymweld â’r arddangosfa er mwyn deall sut beth yw addasu ar gyfer “bywyd arferol” ar gyfer y rhai sydd wedi wynebu sefyllfaoedd anodd ac wedi wynebu trawma ac anafiadau corfforol o ganlyniad i’w gwasanaeth.  Bydd Tŷ Pawb hefyd yn cynnal gweithdai celf gyda thema’r Awyrlu Brenhinol.

“Rhywbeth i Bawb”

Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym yn falch iawn ein bod ni yn Wrecsam yn cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref Sirol ar gyfer yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru ac rwy’n gwybod y bydd pawb yn cefnogi’r digwyddiadau a gynlluniwyd  Mae rhywbeth i bawb – cyn-filwyr, milwyr presennol, teuluoedd, rhai sydd â diddordeb mewn hanes milwrol a’r rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau.

Mae cymaint ar y gweill ac mae llawer o bobl i ddiolch iddynt am ddatblygu’r digwyddiadau hyn a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hymrwymiad diflino i sicrhau bod yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru yn cael eu coffáu am eu gwasanaeth yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.”

“Mae nifer wedi gwasanaethu’n falch gyda’r Awyrlu Brenhinol”

Dywedodd Comodor yr Awyrlu, Adrian Williams “Mae’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru yn falch iawn o dderbyn Rhyddid y Fwrdeistref Sirol.  Mae’n fraint enfawr ac yn un y byddwn yn ei werthfawrogi bob amser.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfranogi ac i bobl Wrecsam am gefnogi’r anrhydedd hon, mae nifer ohonynt wedi ymuno â’n rhengoedd dros y blynyddoedd ac wedi gwasanaethu’n falch gyda’r Awyrlu Brenhinol. Gobeithiaf y caf gwrdd â nifer ohonoch ar 25 Awst ar gyfer y dathliad arbennig hwn a fydd yn ddigwyddiad cofiadwy”

Gallwch weld mwy am arddangosfa Equipped for Life yma.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion dda - gynnydd mewn graddau A* ac A at Lefel A Newyddion dda – gynnydd mewn graddau A* ac A at Lefel A
Erthygl nesaf Yn Barod i Fyw – sut mae cyn-filwyr yn ymdopi pan fyddant yn gadael y bywyd milwrol? Yn Barod i Fyw – sut mae cyn-filwyr yn ymdopi pan fyddant yn gadael y bywyd milwrol?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English