Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf
Pobl a lle

Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf

Diweddarwyd diwethaf: Medi 19, 2018 2:55 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf
RHANNU

Efallai eich bod chi wedi clywed am ein harddangosfa bresennol, Gwlad y Chwedlau, sy’n digwydd yn Amgueddfa Wrecsam tan ddydd Sadwrn, 3 Tachwedd.

Cynnwys
  • Gorffennol chwedlonol Cymru’n dod yn fyw
  • Datblygu Wrecsam yn ‘borth’ treftadaeth Gymraeg

Mwynhewch hen straeon chwedlonol Cymru dros Galan Gaeaf

Fel rhan o’r arddangosfa, bydd adroddwr yn yr amgueddfa yn adrodd straeon rhai o chwedlau hynaf Cymru yn null traddodiadol yr hen feirdd Cymraeg.

Bydd yr adroddwraig straeon lleol, Fiona Collins, yn arwain y sesiynau adrodd straeon yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn, 31 Hydref, yn trochi plant ym myd hudol y Mabinogi – casgliad o chwedlau Cymreig traddodiadol.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Caiff sesiwn ei chynnal i blant dan bump oed rhwng 11am tan 11.40am, a bydd ail sesiwn i blant 6 oed a throsodd o 3.30pm tan 4.30pm.

Yn ogystal â chyd-fynd â chefndir chwedlonol Calan Gaeaf, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig ffordd wych i rieni gadw plant yn brysur dros hanner tymor y gaeaf.

Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Pris mynediad yw £2.50 i blentyn a £2 i oedolyn, gyda mynediad am ddim i blant sy’n iau na blwydd oed.

Mae’r llefydd yn brin felly mae’n rhaid archebu eich lle ymlaen llaw.

I archebu eich lle, galwch heibio i Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw, neu ffoniwch 01978 297460.

Gorffennol chwedlonol Cymru’n dod yn fyw

Bydd rhannau eraill o arddangosfa Gwlad y Chwedlau yn dod â byd mytholegol chwedlau Cymru yn fyw drwy gyfrwng llyfrau, paentiadau, darluniau, animeiddiad a gwisgoedd.

Uchafbwynt yr arddangosfa yw darluniau gwreiddiol Margaret Jones ar gyfer diweddariad Gwyn Thomas o’r Mabinogi yn 1984 sy’n tanio’r dychymyg a chreu diddordeb yn y Gymru a fodolai tua mil o flynyddoedd yn ôl.

Cadwch lygad am wisgoedd chwedlonol a gynhyrchwyd gan grŵp gwau a gwnïo’r Amgueddfa, y gall oedolion a phlant roi cynnig ar eu gwisgo!

Datblygu Wrecsam yn ‘borth’ treftadaeth Gymraeg

Meddai Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n wych i weld partneriaeth Llyfrgell Wrecsam gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dod ag arddangosfa arall llawn trysorau canoloesol a modern i Wrecsam.

“Mae’r arddangosfa hon yn un o nifer o weithgareddau diwylliannol sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref sirol sy’n profi fod Wrecsam yn borth i dreftadaeth Cymru ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dyfodol ein treftadaeth? Amser i chi roi’ch barn Dyfodol ein treftadaeth? Amser i chi roi’ch barn
Erthygl nesaf Gresford Memorial Disaster Cofio’n trychineb waethaf… trychineb Pwll Glo Gresffordd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English