Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adolygiad Craffu – beth ydym wedi edrych arno?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Adolygiad Craffu – beth ydym wedi edrych arno?
Pobl a lleY cyngor

Adolygiad Craffu – beth ydym wedi edrych arno?

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2, 2018 9:41 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Adolygiad Craffu – beth ydym wedi edrych arno?
RHANNU

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddom ddarn sy’n rhoi manylion am ein pwyllgorau gwahanol, sut maent yn gweithio a’r hyn maent yn eu gwneud.

Cynnwys
  • Beth all bwyllgorau craffu eu gwneud?
  • Adroddiad Craffu Blynyddol 
  •  “Croesawu cyfranogiad y cyhoedd”

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Yn ddiweddar cyhoeddom ein Adroddiad Craffu Blynyddol ar gyfer 2017/18, felly yn y darn hwn, rydym am edrych ar ein pwyllgorau craffu.

Beth all bwyllgorau craffu eu gwneud?

Nid yw pwyllgorau craffu yn wneud penderfyniadau, ond mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn arholi manylion y manylion sy’n effeithio ar y cyngor a’r cyhoedd.

Maent eu swyddogaethau allweddol yn cynnwys herio perfformiad gwasanaethau ac adrannau’r cyngor, helpu i ddatblygu polisïau ac sy’n effeithio ar y gwasanaethau yr ydym yn eu derbyn, ac i wirio ein Bwrdd Gweithredol – hyd yn oed i “galw fewn” ei phenderfyniadau.

Yn gyffredinol, pwrpas craffu yw galluogi gwelliant, a gall y pwyllgorau arholi unrhyw beth sy’n effeithio ar bobol yn y sir fwrdeistrefol.

Gall aelodau penderfynu ar y materion hyn – fel canlyniad o geisiadau gan gynghorwyr eraill, swyddogion neu aelodau o’r cyhoedd.

Nid oes gan y pwyllgorau craffu’r pŵer i herio cyrff allanol, ond mae ganddynt berthnasoedd da gyda sefydliadau eraill megis y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Choleg Cambria – mae’r rhain yn gyfarfod a’n bwyllgorau craffu yn aml i drafod eu cynlluniau a’u berfformiad.

Mae gennym bump pwyllgorau craffu gwahanol, a phob un yn cynnwys aelodau etholedig.

Dyma ddisgrifiad cryno o bob un ohonynt.

  • Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad: Mae’r pwyllgor hwn yn edrych ar y pethau hynny sy’n annog twf yn economi Wrecsam, megis cymorth i fusnesau, datblygu economaidd, twristiaeth, diwylliant, adfywio a datblygiad trefol neu wledig.
  • Diogelu, Cymunedau a Lles: Mae’r pwyllgor hwn yn trafod gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion, iechyd, gwasanaethau gwarchod y cyhoedd, gwasanaethau hamdden, canolfannau cymunedol, trosedd ac anrhefn.
  • Cartrefi a’r Amgylchedd: Mae’r pwyllgor hwn yn archwilio tai fforddiadwy, stoc dai’r cyngor, tai cymdeithasol, digartrefedd, safleoedd i deithwyr, rheoli gwastraff, arbed ynni, gwasanaethau strydwedd a ffyrdd
  • Cwsmeriaid, Perfformiad, Adnoddau a Llywodraethu: Mae’r pwyllgor hwn yn adolygu llawer o’r gwaith sydd angen i ni ei wneud er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau fel cyflogwr ac fel awdurdod lleol. Mae hynny’n cynnwys pethau fel rheoli perfformiad, Adnoddau Dynol, materion cydraddoldeb, iechyd a diogelwch, cyswllt â’r cwsmer – yn cynnwys y Ganolfan Gyswllt – ein trefniadau rheoli arian ac asedau, trefniadau partneriaeth/cydweithio a’r gwasanaethau democrataidd.
  • Dysgu Gydol Oes: Mae’r pwyllgor hwn yn trafod pethau fel materion addysg – ar gyfer plant ac oedolion – a llyfrgelloedd.

Adroddiad Craffu Blynyddol 

Fel y crybwyllwyd uchod, yn ddiweddar cyhoeddom ein Adroddiad Blynyddol Craffu, sy’n edrych ar rai o’r llwyddiannau mawr a gyflawnwyd gan bob pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ystod eang o faterion pwysig wedi cael sylw craffu yn ystod 2017/18, yn cynnwys:

  • cyfyngiadau cyflymder lleol;
  • eiddo gwag a sut y gellir eu defnyddio eto;
  • monitro gorwariant contractau;
  • safonau addysgol;
  • cynigion y gyllideb ar gyfer 2018/19 a 2019/20;
  • Uwchgynllun Canol Tref Wrecsam
  • a llawer mwy.

Er mwyn gweld y meysydd eraill a drafodwyd gan graffu yn y flwyddyn ddiwethaf, gwelwch yr adroddiad llawn yma.

 “Croesawu cyfranogiad y cyhoedd”

Dywedodd y Cynghorydd Sonia Benbow-Jones, Cefnogwr Craffu: “Mae ein pwyllgorau craffu wedi gwneud gwaith ardderchog yn y flwyddyn ddiwethaf, o adolygu gwaith a phrosiectau ein hunain i herio cyrff allanol ar y gwaith maent yn ei wneud yn Wrecsam.

“Ond mae craffu ar ei orau pan mae aelodau’r cyhoedd yn cymryd rhan – trwy godi eitemau i’w trafod neu adolygu, mynychu yn bersonol neu ddilyn cyfarfodydd pan gânt eu gweddarlledu.

“Felly, croesawn gyfranogiad y cyhoedd a chynghorir unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu tuag at graffu, gysylltu â ni.”

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dydd Sadwrn brysur yn dod i fyny yn Tŷ Pawb Dydd Sadwrn brysur yn dod i fyny yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi 50 o’r artistiaid fydd ar lwyfan yr ŵyl yn 2019 Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi 50 o’r artistiaid fydd ar lwyfan yr ŵyl yn 2019

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English