Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Chwiliwch am fargen neu gliriwch eich tŷ! Defnyddiwch y siop ailddefnyddio dros y Nadolig yma…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Wrexham Ty Pawb
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Digwyddiadau Pobl a lle
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Chwiliwch am fargen neu gliriwch eich tŷ! Defnyddiwch y siop ailddefnyddio dros y Nadolig yma…
FideoY cyngor

Chwiliwch am fargen neu gliriwch eich tŷ! Defnyddiwch y siop ailddefnyddio dros y Nadolig yma…

Diweddarwyd diwethaf: 2018/12/13 at 2:32 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Mae ailgylchu yn wych – ac nid am eich caniau, poteli a thuniau gwag yn unig yr ydym yn sôn…

Rydym yn sôn am offer chwaraeon, sugnwyr llwch, pramiau, dodrefn, beiciau, dodrefn gardd, DVDs, Blu-rays, cryno ddisgiau ac eitemau trydanol eraill…i enwi ond rhai!

Yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn, mae siop wych lle mae modd i chi gael gafael ar fargen neu roi eitemau nad oes arnoch eu heisiau, a cofiwch hyn: mae’r cyfan yn mynd at achos da lleol!

Caiff y siop ailddefnyddio ei redeg gan Hosbis Tŷ’r Eos, ac ar 16 Tachwedd, dathlodd y drysorfa arbennig hon ei phen-blwydd yn ddwy oed.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Felly, os oes arnoch awydd ambell beth ychwanegol at y Nadolig, ewch draw i chwilota 🙂

Neu os oes gennych lanast sydd angen ei glirio, gallwch anfon eitemau nad oes arnoch eu hangen atynt…

Y naill ffordd neu’r llall, byddwch yn helpu achos teilwng iawn trwy gyfrannu i Tŷ’r Eos, ac hefyd yn rhoi bywyd newydd i eitemau da – gwych!

I’r sawl sydd yn anghyfarwydd â gwaith anhygoel Tŷ’r Eos, maent yn darparu gofal ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd yn rhad ac am ddim ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermo a threfi’r gororau, yn cynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.

Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu glanhau a’u profi o ran diogelwch cyn cael ei hail-werthu yn y siop ailddefnyddio. Fel y gallwch weld o’n fideo, mae digonedd o ddewis.

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu. Mae ardal hefyd felly wedi ei neilltuo yn ein canolfannau ym Mrymbo a Phlas Madoc ar gyfer rhoi eitemau.

Os ydych yn ansicr o leoliad yr ardaloedd hyn, rhowch waedd i un o’n goruchwylwyr, ac fe fyddant yn medru eich cyfeirio i’r lle iawn.

Ond dyna ddigon o fan-siarad – rydym ni am fynd i chwilio am fargen. Welwn ni chi yn y man! 🙂

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol christmas turkey Osgoi gwenwyn bwyd diangen y Nadolig hwn
Erthygl nesaf Gosod Carreg Goffa mewn Rhan o Fynwent i Fabanod a Phlant Bach Gosod Carreg Goffa mewn Rhan o Fynwent i Fabanod a Phlant Bach

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Ty Pawb
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 9, 2026
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle Mawrth 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
FideoPobl a lle

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Mawrth 6, 2026
Parking sign
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English