Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae ein e-byst yn cael eu heffeithio ar hyn o bryd gan y materion Microsoft byd-eang sy'n cael eu hadrodd heddiw. Cofiwch hyn os ydych yn ceisio cysylltu a ni, ac yn ystyried cysylltu drwy ddulliau eraill.
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?
ArallY cyngor

Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?

Diweddarwyd diwethaf: March 7, 2019 3:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Food Caddy Recycling Waste
RHANNU

Ar ôl i ni gyflwyno sticeri ar finiau duon ar draws Wrecsam, mae hwn yn beth sydd ar feddwl llawer o bobl… beth yn union allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?

A dweud y gwir, mae’r ateb yn eithaf syml…

Fe allwch chi ailgylchu pob math o fwyd fel gwastraff bwyd… gallwch, wir, ‘POB math o fwyd’.

(Ni all hylifau fel olew coginio a llaeth cael ei ailgylchu fel gwastraff bwyd.)

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Mae hyn yn cynnwys rhai o’r bwydydd na fyddech chi efallai yn meddwl amdanyn nhw, fel:

• Bwyd sydd dros y dyddiad
• Esgyrn a charcasau
• Plisgyn wyau
• Croen banana (a philion eraill)
• Calonnau afalau
• Bagiau te
• Coffi mân
• Bwydydd amrwd
• Bwydydd sydd wedi llwydo
• Crafion platiau
• Prydau parod heb eu bwyta
• Bwyd brys (e.e. sglodion a phitsas)
• Pysgod cregyn

Pethau nad ydyn ni eisiau i chi geisio eu hailgylchu fel gwastraff bwyd ydi hylifau (fel olew neu lefrith), pecynnau, bagiau plastig, clytiau neu wastraff gardd.

Cofiwch, os oes angen cadi bwyd newydd arnoch, gallwch archebu un – AM DDIM – ar ein gwefan.

Felly dyna beth allwch chi ei ailgylchu… a dyma pam y dylech chi ailgylchu bwyd 🙂

‘Mae eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, dydi eich gwastraff cyffredinol ddim!’

Yn ogystal â’r bendithion amgylcheddol, drwy ailgylchu eich gwastraff bwyd, rydych hefyd yn rhyddhau gofod gwerthfawr yn eich bin du. Mae hefyd yn eich helpu i stopio’ch biniau rhag arogli o fwyd yn pydru – cofiwch fod eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, nid yw hynny’n wir am eich gwastraff cyffredinol!

Felly carwch eich sbarion bwyd a’u hailgylchu nhw. Cofiwch, rydym hefyd eisiau eich bwyd sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad, felly a wnewch chi ei dynnu o’i becyn yn gyntaf, a’i ailgylchu yn eich cadi.

A chofiwch – os yw eich bagiau cadi yn dechrau mynd yn brin, clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi…

Neu fel arall, gallwch eu casglu o’n canolfannau ailgylchu… siaradwch ag un o’r gweithwyr a gofynnwch am rolyn newydd.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Saint Giles Church Staff Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n heidio i Eglwys San Silyn
Erthygl nesaf Rhowch eich barn ar ddyfodol gofal cymdeithasol Rhowch eich barn ar ddyfodol gofal cymdeithasol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Del and Gary from Wrexham - winners
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor

Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth

November 10, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English