Fe fydd Diwrnod Hwyl Cymunedol Lleoedd Diogel yn cael ei gynnal ddydd Iau, 29 Awst rhwng 10am a 4pm ar Sgwâr y Frenhines.
Fe fydd yna reidiau ffair, ffefrynnau’r ffair fel candi fflos, hufen iâ a diodydd rhew, consuriwr, cerddoriaeth, gemau ac wrth gwrs stondinau amrywiol gan gynnwys stondinau gwybodaeth.
Bydd croeso i bawb ac os hoffech archebu stondin yna ffoniwch 01978 298475.
Bydd manylion pellach ar gael yn nes at y dyddiad.
Mae cynllun “Lle Diogel” yn sicrhau bod gan bawb sydd yn ymweld â Wrecsam le diogel i fynd iddo os ydynt yn teimlo’n orbryderus neu’n teimlo panig, straen neu’n arbennig o ddiamddiffyn. Mae busnesau lleol yn cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun ac yna’n arddangos arwydd y gall defnyddwyr sydd wedi cofrestru ei adnabod gan wybod y gallant gael cymorth gan y rhai y tu mewn.
Mae’n rhoi sicrwydd i bobl o wybod bod ganddyn nhw, neu’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, le diogel i fynd pan fydd angen. Gall y lle diogel fod yn siop, tafarn, llyfrgell, adeilad cyngor neu unrhyw le sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd sticer yn nodi bod y lle yn “Lle Diogel” a bydd hefyd yn ymddangos yn y gronfa ddata genedlaethol.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]