Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adeiladu, archwilio, poitsio :-) Sesiynau chwarae am ddim ar gyfer plant yr haf hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Adeiladu, archwilio, poitsio :-) Sesiynau chwarae am ddim ar gyfer plant yr haf hwn
ArallBusnes ac addysgY cyngor

Adeiladu, archwilio, poitsio :-) Sesiynau chwarae am ddim ar gyfer plant yr haf hwn

Diweddarwyd diwethaf: 2019/07/05 at 3:48 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Play opportunities in Wrexham
RHANNU

Mae plant wrth eu bodd yn chwarae. Mae angen iddynt chwarae. Felly beth am gael eich plant i gymryd rhan mewn prosiect chwarae yn ystod y gwyliau ysgol?

Cynnwys
Rydym eisiau i blant chwarae!Teiars, cewyll a chardbord…Dewch i weld…Cymerwch gip ar y manylion isod…

Efallai y byddant yn fwdlyd. Efallai y byddant hyd yn oed yn cael briw neu ddau. Ond byddant wrth eu bodd 🙂

Rydym wedi ymuno â chynghorau cymuned lleol i gynnal prosiectau yn Cefn ac Acrefair, Coedpoeth, Abenbury, Gwersyllt, Offa, Rhos a Johnstown, Rhostyllen, Brymbo a Rhosddu.

Cynhelir sesiynau fel arfer ddwy neu dair gwaith yr wythnos. Maen nhw’n rhad ac am ddim, ac maen nhw’n rhoi cyfle i blant fynd allan i chwarae yn eu cymuned leol.

Children's play sessions in Wrexham

Rydym eisiau i blant chwarae!

Mae Cyngor Wrecsam wedi addo cefnogi cyfleoedd i blant chwarae.

Mae gan y Cynghorydd Andrew Atkinson gyfrifoldeb arweiniol dros wasanaethau ieuenctid. Dywedodd: “Dylai chwarae fod yn rhan enfawr o fywyd pob plentyn. Mae wrth wraidd sut maent yn profi ac yn mwynhau’r byd, ac mae’n eu helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr.

“Mae’r prosiectau gwyliau ysgol hyn yn rhan o’n Haddewid Chwarae i gefnogi chwarae yn Wrecsam, ac rwyf yn annog rhieni a phlant i alw draw a gweld â’u llygaid eu hunain.

”Mae’r sesiynau’n gydbwysedd da rhwng goruchwyliaeth a rhyddid, ac mae gweld y plant yn mwynhau eu hunain yn hollol wych.”

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22.

 

Teiars, cewyll a chardbord…

Nid yw’r prosiectau’n cynnig gweithgareddau wedi’u trefnu’n fanwl – y nod yw rhoi amser, lle a chaniatâd i’r plant i chwarae’r ffordd y maen nhw’n ei ddewis.

Esboniodd Jay Davies, gweithiwr datblygu chwarae: “Mae ein gweithwyr chwarae yn rhedeg y sesiynau. Maent yn creu amgylchedd hwyliog ac yn darparu llawer o wahanol adnoddau fel pren, teiars, cewyll, rhaffau, paent a chardbord, yn ogystal ag offer… fel y gallant adeiladu a gwneud pethau.

“Mae’r gweithwyr chwarae yn helpu i gadw’r plant yn ddiogel, ond nid ydynt yn dweud wrth y plant beth i’w wneud. Maent yn gadael iddynt archwilio eu syniadau eu hunain, a phrofi eu cyfyngiadau a’u galluoedd eu hunain.”

Dewch i weld…

Mae croeso i rieni ddod i sgwrsio â’n gweithwyr chwarae a gweld beth sy’n digwydd.

Ac mae cofrestru eich plentyn yn hawdd. Llenwch ffurflen y tro cyntaf y byddwch yn ymweld.

Fodd bynnag, nid yw’r sesiynau hyn yn darparu gofal plant ffurfiol, ac nid oes gan weithwyr chwarae gyfrifoldeb i gadw eich plentyn ar y safle… gallant fynd a dod fel y mynnant.

Felly mae’n syniad da cytuno ar unrhyw reolau neu drefniadau gyda’ch plant a’ch gweithwyr chwarae ymlaen llaw.

Mae sesiynau’r haf yn cychwyn yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun, Gorffennaf 22ain a byddant yn para tan ddiwedd y gwyliau ysgol yn gynnar ym mis Medi.

Cymerwch gip ar y manylion isod…

Cefn Mawr ac Acrefair
11am-1pm

  • Dydd Llun a Dydd Mercher ym Mharc Plas Kynaston (wrth ymyl y llyfrgell)
  • Dydd Gwener ar gae ysgol Acrefair

Coedpoeth
2-4pm

  • Dydd Mawrth a dydd Iau yng Nghae Adwy

Abenbury
11am-1pm

  • Dydd Mawrth a dydd Iau ym Mhentre Maelor (yn yr ardal chwarae)

Gwersyllt
2-4pm

  • Dydd Llun a dydd Mawrth ym Mharc Pentywyn
  • Dydd Mercher a dydd Iau yng Nghaeau Bradle
  • Dydd Gwener yn Ffordd Newydd, Brynhyfryd

Offa
2-4pm

  • Dydd Mawrth yn NhĹ· Luke O Connor
  • Dydd Mercher ym maes chwarae Bryncabanau
  • Dydd Iau a dydd Gwener ym Mharc Bellevue

Rhos a Johnstown
2-4pm

  • Dydd Llun a dydd Mawrth yn Morton Circle (Johnstown)
  • Dydd Mercher ym Mryn y Brain
  • Dydd Iau a dydd Gwener ym Mharc Ponciau

Rhostyllen
10am-1pm

  • Dydd Llun i ddydd Gwener ar y caeau y tu Ă´l i Neuadd y Plwyf

Brymbo
11am-1pm

  • Dydd Llun a dydd Mawrth yng Ngolygfa Caer
  • Dydd Mercher yn Ffordd y Melinydd (Brymbo)
  • Dydd Iau a dydd Gwener yng Nghae Merfyn, Tanyfron

Rhosddu
11am-1pm

  • Dydd Llun yn Ffordd y Garden Road (y tu allan i adeilad Byddin yr Iachawdwriaeth)
  • Dydd Mawrth ym Mharc Ashfield (tu Ă´l i’r ganolfan tennis)
  • Dydd Mercher ar Grin y Pentref, Garden Village (o flaen Ysgol Clawdd Wat)
  • Dydd Iau a dydd Gwener ym mharc sglefrio LĂ´n Price

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Aelod Tenant a Phartneriaeth - Rydym Angen Chi! Aelod Tenant a Phartneriaeth – Rydym Angen Chi!
Erthygl nesaf Click and Collect Rhowch eich barn am ddyfodol marchnadoedd canol y dref

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Arall

Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
St Anne's
Busnes ac addysg

Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English