Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant
Pobl a lleY cyngor

Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant

Diweddarwyd diwethaf: 2019/07/16 at 11:48 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant
RHANNU

Erthygl a gyhoeddwyd ar ran y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig

Gall Batris Botymau “ladd plentyn” os yw’n cael ei lyncu ar ddamwain, meddai Swyddfa Diogelwch a Safonau Nwyddau. Mae canllaw a gyhoeddwyd gan y swyddfa’n dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gangen Archwilio Diogelwch Gofal Iechyd (HSIB) ddydd Iau, ar ôl marwolaeth merch fach tair oed llynedd, pan llyncodd hi fatri botwm 23mm.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Daeth adroddiad yr HSIB i ddarganfod, er bod rheoliadau diogelwch llym ar nwyddau megis teganau plant, nid oes rheoliadau cyfwerth i ddiogelu cydrannau batris ar eitemau’r cartref. Mae’r Swyddfa, mewn ymgynghoriad gyda’r HSIB wedi datblygu strategaeth ddiogelwch wedi’i thargedu, gan gynnwys rhoi strategaeth newydd ar y trywydd cyflym o fewn y maes hwn, a fydd yn edrych ar gasys nwyddau, yn ogystal â deunyddiau pecynnu ac arferion manwerthu diogel.

Mae’r Swyddfa’n annog rhieni i gymryd diogelwch eithriadol pan fydd plant yn defnyddio dyfeisiau electronig sy’n cynnwys batris botwm, ac i geisio sylw meddygol ar unwaith os yw plentyn yn llyncu un ar ddamwain.

Y camau syml i helpu diogelu plant o’r peryglon gan fatris botwm yw:

  • Cadw batris sbâr yn ddiogel ac allan o gyrraedd plant. Peidiwch â’u gadael yn rhydd mewn drors neu ar arwynebau.
  • Byddwch yn ofalus wrth agor pecyn amrywiol o fatris botwm rhag ofn iddynt ddisgyn ar y llawr.
  • Dod i wybod ba deganau a theclynnau sy’n defnyddio batris botwm. Mae hyn yn cynnwys eitemau bob dydd megis: robot pryfyn neu deganau pysgod, fidget spinner gyda goleuadau LED, rheolyddion o bell sy’n denau, ffobiau goriadau car, cyfrifianellau, cloriannau, clustffonau gemau cyfrifiadurol, oriorau, cymhorthion clyw, goleuadau nos ac eitemau hwylus megis modelau o Siôn Corn sy’n canu.
  • Gwiriwch eich cartref am eitemau sy’n cael eu pweru gan fatris botwm. Os nad yw cydran y batris wedi’i ddiogelu gan sgriw, symudwch yr eitem allan o gyrraedd plant ifanc. Os yw’r cydran yn ddiffygiol, mae’n rhaid ei drwsio neu ei waredu’n ddiogel. Gallwch adrodd teganau diffygiol i’r safonau masnach drwy Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr.
  • Dysgwch plant hŷn pam fod batris botwm yn beryglus a pam na ddylid eu rhoi i blant ifanc.
  • Gwaredwch fatris botwm sydd wedi dod i ben yn syth. Mae plant yn aml yn dod o hyd i fatris botwm sydd wedi’u defnyddio yn gorwedd o gwmpas neu dan glustogau’r soffa. Gall batris botwm sydd wedi dod i ben fod â digon o bŵer ynddynt o hyd i anafu plentyn bach yn ddifrifol. Pan rydych yn tynnu batri, cadwch o’n ddiogel a’i ailgylchu’n briodol.

Er nad yw’n bosib dweud bob amser os yw plentyn wedi llyncu batri botwm, mae arwyddion rhybudd i edrych allan amdanynt.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tagu
  • Gagio
  • Glafoeri
  • Chwydu

Os ydych chi’n amau bod plentyn wedi llyncu batri, ewch â nhw yn syth i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys.

Peidiwch â rhoi unrhyw beth iddynt fwyta nac yfed, a pheidiwch â cheisio eu gwneud yn sâl, gall hyn wneud yr adwaith cemegol llawer gwaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, Leon Livermore: “Mae’r canllaw a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa’n hanfodol i unrhyw un sy’n gofalu am blant ifanc. Ar oedran argraffadwy pan mae popeth yn mynd i’r geg, mae angen i ni sicrhau bod plant yn ddiogel rhag achosion sy’n berygl i’w bywydau. Rwy’n argymell yn gryf bod pawb yn rhannu’r canllawiau hyn i atal rhagor o farwolaethau.”

 

Nodwch mai yn Saesneg yn unig mae’r fideo

Am ragor o gyngor ar reoli peryglon batris botwm, ewch i:

www.capt.org.uk/button-batteries

www.buttonbatterysafety.com

www.rospa.com/button-batteries/

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil
Erthygl nesaf home schooling Canllaw Gweithgareddau Gwyliau’r Haf ar gael Rŵan

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English