Dewch am baned gyda’r Gweithwyr Chwarae yn y sesiwn galw heibio anffurfiol newydd hon. Bydd y sesiynau hwyliog yn annog rhieni a gofalwyr i fod ychydig yn fwy chwareus eu hunain!
Mae croeso i famau, tadau a gofalwyr.
Yn dechrau ar 9 Medi yn Tŷ Pawb.
Cynhelir y sesiynau galw heibio am chwe wythnos, ar ddydd llun o 12:30 tan 2:00.
Bydd yr Oriel ar agor i’r cyhoedd yn ystod y sesiynau hyn.
Ffoniwch 01978 298361 neu e-bostiwch play@wrexham.gov.uk am fwy o fanylion, neu galwch heibio i weld beth sy’n digwydd.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]