Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Nabod Eich Rhifau yn Llyfrgell Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Nabod Eich Rhifau yn Llyfrgell Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Nabod Eich Rhifau yn Llyfrgell Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 5, 2019 11:20 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Nabod Eich Rhifau yn Llyfrgell Wrecsam
RHANNU

Mae cyfle i ddefnyddwyr llyfrgell Wrecsam wneud mwy na chasglu llyfr yn ystod eu hymweliad yr wythnos nesaf, gallant dderbyn prawf pwysau gwaed am ddim.

Yn rhan o ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru, mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio gyda Blood Pressure UK, elusen fwyaf blaenllaw’r wlad sy’n rhoi gwybodaeth a chymorth i bobl sydd â phwysau gwaed uchel, er mwyn annog pobl i gael gwybod eu rhifau pwysau gwaed a chymryd y camau angenrheidiol i gyrraedd a chynnal pwysau gwaed iach.

Wythnos Nabod dy Rifau! (9-15 Medi) yw digwyddiad profi ac wythnos ymwybyddiaeth pwysau gwaed mwyaf y DU ac mae’n un o bedwar digwyddiad iechyd a lles sy’n rhan o ymgyrch Byw’n Dda yng Nghymru, sydd â’r nod o ddod â llyfrgelloedd cyhoeddus a sefydliadau partner ynghyd i hybu lles y genedl.

Cefnogodd llyfrgelloedd yr Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ystod mis Mai a byddant hefyd yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Dyslecsia Cymdeithas Dyslecsia Prydain ym mis Hydref a Diwrnod Gwneud Rhywbeth Gwahanol ym mis Ionawr.

Yn ystod Wythnos Nabod Eich Rhifau! bydd llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru yn cynnal ‘gorsafoedd pwysau’ a fydd yn cynnig gwiriadau pwysau gwaed am ddim i ddefnyddwyr llyfrgelloedd ac aelodau’r cyhoedd. Caiff y gorsafoedd eu cynnal gan staff hyfforddedig a fydd yn cymryd darlleniad pwysau gwaed, ei gofnodi ar gerdyn post i bob unigolyn a rhoi llythyr atgyfeirio i feddyg teulu’r unigolyn os bydd angen.

Yn Wrecsam bydd gorsaf pwysau gwaed yn Llyfrgell Wrecsam lle bydd croeso i ymwelwyr ddod i gael mesur eu pwysau gwaed.

Meddai Shan Cooper, Arweinydd Llyfrgelloedd Wrecsam, “Mae ein
llyfrgelloedd yn cynnig cyfoeth o adnoddau ynglŷn ag iechyd a lles ac rydym wrth ein boddau yn gweithio gyda Blood Pressure UK yn ystod Wythnos Nabod eich Rhifau! i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal pwysau gwaed iach.

“Gobeithiwn y bydd ein cwsmeriaid ac unrhyw aelodau’r cyhoedd sydd am ddod i’r llyfrgell yn achub ar y cyfle hwn i wirio eu pwysau gwaed am ddim a chael mwy o wybodaeth am gynnal lefelau iach.”

Meddai Hemini Bharadia, Rheolwr Ymgyrch Wythnos Nabod Eich Rhifau! “Nid yw pwysau gwaed uchel yn gwahaniaethu ar sail oedran neu ryw – mae pobl yn marw’n ddiangen oherwydd eu bod yn methu cymryd camau bach syml megis lleihau eu pwysau gwaed.

“Wythnos Nabod Eich Rhifau! yw’r cyfle perffaith i chi fynd am wiriad pwysau gwaed am ddim a’ch rhoi chi eich hun mewn rheolaeth dros eich iechyd, felly mae’n bleser gennym bod Llyfrgelloedd Cymru wedi ymuno â’r ymgyrch trwy gynnal Gorsafoedd Pwysau Gwaed lle gallwch gael mesur eich pwysau gwaed. Byddant yn chwarae rôl enfawr wrth helpu i gynghori cwsmeriaid am bwysau gwaed a chael profion. Felly, gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn eu cefnogi ac Wythnos Nabod Eich Rhifau! 2019 trwy fynd am wiriad pwysau gwaed mewn llyfrgell sy’n agos iddynt.”

I gael mwy o wybodaeth am Wythnos Nabod Eich Rhifau! ewch i www.bloodpressureuk.org/kyn

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i fwynhau noson Ganoloesol yn yr Amgueddfa... Dewch i fwynhau noson Ganoloesol yn yr Amgueddfa…
Erthygl nesaf Gallai’r gweithdai am ddim yma eich helpu i dyfu eich busnes Gallai’r gweithdai am ddim yma eich helpu i dyfu eich busnes

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English