Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am ddim dros yr Ŵyl Fwyd, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Parcio am ddim dros yr Ŵyl Fwyd, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl!
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Parcio am ddim dros yr Ŵyl Fwyd, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl!

Diweddarwyd diwethaf: Medi 6, 2019 3:29 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Parcio am ddim dros yr Ŵyl Fwyd, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl!
RHANNU

Bydd perfformwyr o Wrecsam ac o bob cwr o Ogledd Cymru yn diddanu’r dorf yn yr Ŵyl Fwyd y penwythnos hwn.

Cynnwys
  • Be’ sy’ mlaen?
  • “Cerddoriaeth ac adloniant anhygoel”
  • “Mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o bwysig”
  • Parcio am ddim – cadwch lygad am y cyfyngiadau

Caniateir parcio am ddim yn holl feysydd parcio canol tref Cyngor Wrecsam (ar wahân i faes parcio Tŷ Pawb) o 10am ymlaen felly manteisiwch ar y cyfle!

Be’ sy’ mlaen?

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Bydd cerddorion a dawnswyr di-ri ar y llwyfan dros y digwyddiad deuddydd sy’n cael ei gynnal yn Llwyn Isaf / Cae’r Llyfrgell yng nghanol y dref ddydd Sadwrn a dydd Sul, 7 ac 8 Medi.

Yn ogystal â dros 80 o gynhyrchwyr lleol a rhanbarthol yn gwerthu popeth o gawsiau, cacennau a phastai i goffi a gin (i enwi dim ond rhai), gall ymwelwyr hefyd fwynhau adloniant byw ar Lwyfan Wrexham Lager / y Llwyfan Band yn Llwyn Isaf.

Ddydd Sadwrn bydd perfformiadau gan The Flow, Brook, The Hot Tub Ferret, Luke Gallagher, Jamie Hamlington a band wmpa.  Rhythm Train fydd yn perfformio ddiwedd y noson cyn i’r diwrnod ddod i ben gydag arddangosfa tân gwyllt gwefreiddiol toc cyn 9pm.

Ddydd Sul bydd Isabella Crowther, Danny Gruff a Coverlovers ar y llwyfan.

Bydd y grŵp dawns Delta Academy hefyd yn perfformio drwy gydol y penwythnos.

Bydd cogyddion lleol yn rhoi arddangosiadau coginio a bydd reidiau ffair i’w mwynhau ar y safle.

“Cerddoriaeth ac adloniant anhygoel”

Meddai Andy Gallanders, trefnwr y digwyddiad: “Cewch nid yn unig wledd o fwyd a diod blasus yng Ngwyl Fwyd Wrecsam, cewch hefyd wledd o gerddoriaeth ac adloniant.

“Gall ymwelwyr edrych ymlaen at weld perfformiadau gwych gan rai o dalentau newydd a rhai mwy adnabyddus y sîn cerddoriaeth lleol.

“Mae rhagolygon y tywydd yn dda felly edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd ddydd Sadwrn a dydd Sul!”

Ychwanegodd y trefnwr Sam Regan:  “Bydd yn fraint cael dangos tref Wrecsam ar ei gorau’r penwythnos hwn a chredaf fod hyn yn enghraifft wych o’r hyn y mae’n bosib ei wneud pan ddaw pawb at ei gilydd mewn ymdrech i wireddu’r un nod,  ac rydym wrth ein bodd gyda’r gefnogaeth a’r gwaith partneriaeth sydd wedi digwydd ac sy’n dal i ddigwydd.”

Am ragor o wybodaeth ewch i Food Festival

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o bwysig”

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, “Mae digwyddiadau fel yr Ŵyl Fwyd yn chwarae rhan hollbwysig yn economi canol y dref, nid yn unig drwy ddod ag ymwelwyr i Wrecsam a rhoi cyfle rhagorol i fusnesau a chynhyrchwyr lleol arddangos eu nwyddau, ond hefyd drwy godi ein proffil fel rhywle sy’n gallu cynnal digwyddiadau mawr. Gobeithiaf bydd preswylwyr yn dod yn llu i’w cefnogi.

“Rydw’i wrth fy modd gweld yr Ŵyl Fwyd yn ôl ac yn hynod o falch ein bod ni wedi gallu cefnogi’r digwyddiad unwaith eto drwy gynnig parcio am ddim.”

Meddai’r Cynghorydd  Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Rydw i’n falch dros ben o weld yr Ŵyl Fwyd yn dychwelyd i Lwyn Isaf ac rwy’n siŵr y bydd aelodau’r cyhoedd a masnachwyr fel ei gilydd yn croesawu’r cyfle i weld peth o’r cynnyrch rhagorol sydd gan Wrecsam a’r ardal ehangach i’w gynnig.”

Parcio am ddim – cadwch lygad am y cyfyngiadau

Bydd parcio am ddim ar gael ym mhob un o feysydd parcio canol y dref ar wahân i Tŷ Pawb o 10am ymlaen ond bydd y cyfyngiadau arferol ar amseroedd parcio yn dal i fod mewn grym.

Er enghraifft os ydych yn mynd i faes parcio arhosiad byr, chewch chi ddim ond parcio yno am yr amser hiraf a ganiateir yn arferol yn y  maes parcio penodol hwnnw.

Cynghorwn y cyhoedd hefyd y bydd y cyfyngiadau arferol mewn mannau parcio eraill yn y dref mewn grym dros y penwythnos ac y bydd swyddogion gorfodi’n cyflawni eu dyletswyddau arferol.

Er enghraifft bydd y cyfyngiad parcio o ddim mwy na 30 munud mewn mannau parcio wrth ymyl y ffordd yn dal mewn grym fel arfer.

Mae’r un peth yn wir ar gyfer llinellau melyn dwbl neu sengl a’r defnydd o lecynnau parcio Bathodyn Glas.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas Village Hoffech chi gael stondin yn y Marchnadoedd Nadolig? Darllenwch ymlaen …
Erthygl nesaf Tref Cyfeillgar i Ddementia - lle rydym ni arni? Tref Cyfeillgar i Ddementia – lle rydym ni arni?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English