Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydw i’n gallu ailgylchu…? Dyna ofynnoch chi, dyma ein hateb ni!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle
telecare scam
Sgàm Teleofal
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ydw i’n gallu ailgylchu…? Dyna ofynnoch chi, dyma ein hateb ni!
Y cyngor

Ydw i’n gallu ailgylchu…? Dyna ofynnoch chi, dyma ein hateb ni!

Diweddarwyd diwethaf: 2019/10/11 at 12:06 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Recycling envelopes windows questions
RHANNU

Yn wir, mae yna lawer i’w gofio mewn perthynas ag ailgylchu. Os ydych chi o bryd i’w gilydd yn edrych ar eitemau ac yn ystyried a ellir eu hailgylchu, nid chi yw’r unig un.

Cynnwys
1. Ydw i’n gallu ailgylchu ffoil?2. Ydw i’n gallu ailgylchu poteli diaroglyddion rholio gwydr?3. Beth ddylwn ei wneud gyda chaeadau tun metel?4. Ydw i’n gallu ailgylchu amlenni gyda ffenestri?5. Ydw i’n gallu ailgylchu codennau coffi?6. A oes wir angen i ni olchi eitemau cyn eu golchi?7. A ddylwn i dynnu caeadau plastig/metel oddi ar jariau gwydr?

Mae ein tîm strategaeth gwastraff wedi derbyn nifer o gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd yn ddiweddar yn gofyn a ellir ailgylchu deunydd penodol neu beidio. Rydym wedi gofyn i’r tîm rannu’r cwestiynau hyn â ni, yn ogystal â’r atebion wrth gwrs!

Dyma’r cwestiynau yr ydych chi wedi eu gofyn i’n tîm ailgylchu…

1. Ydw i’n gallu ailgylchu ffoil?

Yr ateb yw YDYCH, ond mae’n hollbwysig bod y ffoil yn LÂN. Os nad yw’r ffoil yn lân, bydd yn halogi deunyddiau eraill yn eich bocs ailgylchu. Felly, os ydych chi wedi defnyddio ffoil sy’n lân, rhowch y ffoil yn eich bocs gwyrdd/ bocs canol y troli, ynghyd â’ch plastigion a’ch caniau cymysg, ac fe wnawn eu hailgylchu.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

2. Ydw i’n gallu ailgylchu poteli diaroglyddion rholio gwydr?

Mae’r cwestiwn hwn wedi codi yn y gorffennol, ac rydym yn falch o ddweud YDYCH, rydych chi yn gallu ailgylchu poteli rholio gwydr, felly rhowch nhw yn y bocs ailgylchu ynghyd â gweddill eich gwydr. Gellir ailgylchu’r caead plastig ar y poteli hyn hefyd, felly tynnwch y caead a’i roi yn y bocs ailgylchu ynghyd â’ch plastigion eraill.

3. Beth ddylwn ei wneud gyda chaeadau tun metel?

Unwaith y bydd y tun metel yn wag ag yn lân, rhywbeth y gallwch ei wneud i’n helpu ydi rhoi caeadau tun metel yn ôl y tu mewn i’r tun pan fyddwch chi’n eu hailgylchu. Mae hyn yn helpu oherwydd pan fo’r metel yn cael ei wasgu yn y ganolfan ailgylchu, yn aml mae’r caeadau sydd heb eu rhoi nôl yn y tun yn llithro allan o’r swp oherwydd eu maint. Felly rhowch gaeadau’r tun yn ôl y tuniau os gwelwch yn dda 🙂

4. Ydw i’n gallu ailgylchu amlenni gyda ffenestri?

Mae hyn yn achosi dryswch i nifer o bobl.. ond YDYCH, rydych chi’n gallu ailgylchu’r rhain! Rhowch yr amlenni â ffenestri yn y bocs ailgylchu ynghyd â gweddill eich papur a chardbord.

5. Ydw i’n gallu ailgylchu codennau coffi?

Yn anffodus, NAC YDYCH, ni allwn ailgylchu codennau coffi. Os oes genych chi godennau coffi, beth wirio â’r cyflenwr i weld a ellir eu dychwelyd i gael eu hailgylchu?

6. A oes wir angen i ni olchi eitemau cyn eu golchi?

Yr ateb yw OES, heb os! Mae’n hollbwysig eich bod yn golchi unrhyw wastraff bwyd ar ddeunyddiau a ailgylchir oherwydd mae hynny’n golygu bod ansawdd y deunyddiau a gaiff eu hailgylchu i greu cynnyrch newydd yn llawer gwell. Pan fyddwch wedi gorffen golchi eich llestri, cyn tynnu’r plwg, rhowch eich deunyddiau plastig yn y peiriant golchi llestri am ddau funud i’w rinsio. Nid yw hyn yn cymryd llawer o amser, a gan amlaf, mae’n ddigon i gael gwared ag unrhyw wastraff.

7. A ddylwn i dynnu caeadau plastig/metel oddi ar jariau gwydr?

Os gwelwch yn dda. Rhowch gaeadau plastig a metel yn eich bocs gwyrdd/ bocs canol y troli i’w hailgylchu, a rhowch y jar metel yn y bocs ynghyd â gweddill eich gwydr i’w hailgylchu.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol J Gweithio gyda phlant, swyddi pwysig a gwaith rhan amser…dyma ddetholiad o’n swyddi diweddaraf
Erthygl nesaf Canmoliaeth i’r Bws Awtistiaeth Canmoliaeth i’r Bws Awtistiaeth

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle Rhagfyr 3, 2025
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor Rhagfyr 3, 2025
Train carriage
Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall Rhagfyr 2, 2025
save the date
Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 2, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lleY cyngor

Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor

Rhagfyr 3, 2025
telecare scam
Y cyngor

Sgàm Teleofal

Rhagfyr 2, 2025
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Y cyngor

Mae bob amser yn syniad da gwirio pa ddiwrnod y cesglir eich biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Rhagfyr 1, 2025
Demolition
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddymchwel hen orsaf heddlu yng Nghefn Mawr i wneud lle ar gyfer tai cymdeithasol newydd

Tachwedd 27, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English