Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth ydym yn ei wneud i wneud i chi deimlo’n fwy diogel yn Wrecsam.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Beth ydym yn ei wneud i wneud i chi deimlo’n fwy diogel yn Wrecsam.
Pobl a lleY cyngor

Beth ydym yn ei wneud i wneud i chi deimlo’n fwy diogel yn Wrecsam.

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 18, 2019 10:32 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Beth ydym yn ei wneud i wneud i chi deimlo’n fwy diogel yn Wrecsam.
RHANNU

Fel rhan o’r arolwg Diogelwch Cymunedol Wrecsam, gofynnodd y bartneriaeth i bobl beth fyddai’n gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel yng nghanol y dref. Y ddau ymateb mwyaf poblogaidd oedd ‘plismona amlwg’ a ‘mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.’

Cynnwys
  • Adrodd am gysgu ar y stryd
  • Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Rhowch wybod i ni…

Roedd nifer uchel o ymatebion agored drwy gydol yr arolwg hefyd yn cyfeirio at y rhai oedd yn ‘agored i niwed yn weladwy’ yn Wrecsam.

Roedd Ian Bancroft, Prif Weithredwr “Mae’n galonogol iawn bod y rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymdogaethau.

“Fodd bynnag, mae’n rhwystredig nad yw pobl yn teimlo eu bod mor ddiogel â dylent fod yng nghanol y dref… oherwydd mewn gwirionedd, mae Wrecsam yn le diogel iawn i fod.”

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae ystadegau’n dangos bod Wrecsam yn lle eithaf diogel o’i gymharu â threfi tebyg yn y Deyrnas Unedig, gyda chyfraddau trosedd cyfartalog neu’n is na chyfartaledd ar gyfer materion yn ymwneud â chyffuriau, troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, lladrad neu drosedd mewn perthynas â cherbydau.  Mae ystadegau a gasglwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ar ran y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dangos gostyngiad o 43 y cant mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref, o’i gymharu â‘r blynyddoedd blaenorol.

Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ac asiantaethau ar draws Wrecsam i gynnal y canlyniadau cadarnhaol hyn.

Fel rhan o’r gwaith parhaus hwn mae’r Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau yn comisiynu rhai o’r gwasanaethau rheng flaen i fod yn canolbwyntio’n fwy allgymorth i ymgysylltu â phobl sy’n agored i niwed yn weladwy ar strydoedd Wrecsam.  Drwy eu cysylltu â’r gwasanaethau priodol, maent yn canolbwyntio ar leihau niwed ac adfer, a gwella canlyniadau i’r unigolion.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r tîm Amlasiantaeth Canol Tref newydd a sefydlwyd i weithio ar fynd i’r afael â safleoedd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

Efallai eich bod wedi gweld yr erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar am y meinciau a’r biniau sy’n cael eu symud ar Stryt yr Arglwydd. Roedd hyn mewn ymateb i geisiadau gan grŵp aml asiantaeth canol y dref yn gynharach yr wythnos hon oherwydd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys delio cyffuriau, sy’n digwydd yn yr ardal a’r effaith negyddol roedd hyn yn ei gael ar Wrecsam gyfan.

Dywedodd yr arolygydd Vic Powell: “Mae yna drefniadau partneriaeth sylweddol wedi eu cynllunio yn dda i nodi a delio gyda’r sawl sy’n achosi niwed yn ein cymunedau.    Mae’r tîm plismona canol tref â’r dasg ac wedi ymrwymo i ddelio gyda’r sawl sydd angen mesurau gorfodi neu ymyrraeth gadarnhaol ar gyfer eu hymddygiad a byddaf yn parhau i ddefnyddio’r adnoddau plismona hynny i gefnogi gwaith y bartneriaeth.”

Mae’r heddlu yn parhau i fynd i’r afael ac atal delio gyda chyffuriau a dulliau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref drwy ddefnyddio cŵn sganio cyffuriau a hyfforddwyd yn arbennig, ymysg dulliau eraill.

Adrodd am gysgu ar y stryd

Os ydych chi’n pryderu am rywun a allai fod yn cysgu ar y stryd, gallwch ei adrodd drwy’r App Street Link – ar gael ar Android ac iPhone.

Neu ei adrodd yn syth i dîm Dewisiadau Tai Cyngor Wrecsam ar 01978 292947.

Gall rhoi gwybod helpu asiantaethau i ddarparu cefnogaeth i’r unigolyn hwnnw… a dod o hyd i rywle iddynt gysgu o bosib.

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Drwy roi gwybod am ymddygiad troseddol, gallwch helpu’r heddlu a’i bartneriaid i ganolbwyntio adnoddau lle maent yn angenrheidiol.

Os ydych chi’n dyst i unrhyw drosedd (gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol), cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 (neu 999 mewn argyfwng).

Gallwch adrodd achosion ar wefan Heddlu Gogledd Cymru hefyd.

Rhowch wybod i ni…

Rydym yn ailadrodd yr arolwg eto ac eisiau gwybod pa mor ddiogel ydych yn teimlo pan ydych yn treulio amser o amgylch y Fwrdeistref Sirol.  Felly mae gennym arolwg ar-lein byr ar gael nawr i chi ei lenwi.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn dweud wrthym pa mor ddiogel ydych yn teimlo a pha un a yw beth ydym yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Pwll Dŵr Stryt las yn cael ei lanhau eto eleni Mae Pwll Dŵr Stryt las yn cael ei lanhau eto eleni
Erthygl nesaf ask for TAFARNDAI YN WRECSAM YN CEFNOGI YMGYRCH ‘GOFYNNWCH AM ANGELA’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English