Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhagor o welliannau ar y ffordd ar gyfer cyfleusterau hamdden yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhagor o welliannau ar y ffordd ar gyfer cyfleusterau hamdden yn Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Rhagor o welliannau ar y ffordd ar gyfer cyfleusterau hamdden yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2019/11/19 at 2:45 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Leisure Centres
RHANNU

Mae rhagor o waith gwella ar y ffordd mewn dwy o’n canolfannau hamdden a gweithgareddau.

Y gwaith yma fydd y diweddaraf mewn nifer o welliannau yn ein canolfannau, a redir mewn cysylltiad â’n partneriaid Freedom Leisure.

Bydd gwaith yn cychwyn yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans, Gwersyllt, o ddydd Llun, 2 Rhagfyr.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Bydd ystafelloedd newid dynion a merched y ganolfan yn cael eu gwella, gyda ffitiadau cawod newydd a nenfydau newydd, a bydd paneli LED newydd yn cael eu gosod yn lle’r batonau golau cyfredol; bydd sychwyr gwallt a drychau newydd ar yr unedau ymolchi a byddwn yn ailbaentio waliau, gwaith coed ac addurniadau a byddwn yn glanhau.

Dylai’r gwaith gymryd tua pythefnos i’w gwblhau.

Bydd newidiadau hefyd yn digwydd yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr, Wrecsam, o ddydd Llun 16 Rhagfyr ymlaen.

Byddwn yn rhoi teils nenfwd newydd yn y pentref newid gwlyb gyda gwell wyneb finyl, a byddwn yn newid y golau am baneli LED newydd. Nid ydym yn disgwyl y bydd y gwaith yn cymryd mwy nag wythnos – tua pedwar diwrnod gwaith.

Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure Wrecsam: “Rydw i’n falch o nodi bod gwaith pellach yn mynd rhagddo yn ein canolfannau hamdden a gweithgareddau sy’n rhan o’r gwaith i foderneiddio’n hadnoddau a’n cynnig i ddefnyddwyr, o safbwynt cyfleustra a chyflwyniad.

“Dydyn ni ddim yn bwriadu cau unrhyw rai o’r cyfleusterau tra mae’r gwaith yn cael ei wneud, ac ni fydd defnyddwyr yn cael eu heffeithio – er y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio’r ardaloedd newid sych yn Gwyn Evans er mwyn gwneud peth o’r gwaith.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol green bin Nodyn atgoffa: casgliadau gwastraff gardd misol yn ystod y gaeaf
Erthygl nesaf Gwobrau Siarter Iaith i ysgolion Wrecsam a Sir y Fflint Gwobrau Siarter Iaith i ysgolion Wrecsam a Sir y Fflint

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg Awst 14, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol
Pobl a lle Awst 13, 2025
Cycling
Ydych chi’n hyderus yn beicio?
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 13, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
This is Wrecsam and Lot 11 tourim initiative - image shows Lot 11 owner Sarah Baker with artist Mikey Jones and Lot 11 staff member Beth Williams
Pobl a lle

Mae Dyma Wrecsam yn cefnogi prosiect Lot 11 newydd sy’n dathlu creadigrwydd, lles a chymuned leol

Awst 13, 2025
Cycling
DigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n hyderus yn beicio?

Awst 13, 2025
Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English