Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynhadledd a Dathliad Gwaith Ieuenctid Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cynhadledd a Dathliad Gwaith Ieuenctid Wrecsam
Arall

Cynhadledd a Dathliad Gwaith Ieuenctid Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2020 11:17 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cynhadledd a Dathliad Gwaith Ieuenctid Wrecsam
RHANNU

Y llynedd, mae rhyddhau’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a chanllawiau gweithredu newydd wedi rhoi’r cyfle i’r gwasanaethau ieuenctid ddod ynghyd ac edrych ar sut y gellir defnyddio’r ddogfen newydd i siapio dyfodol gwaith ein gwasanaeth ieuenctid.

Bu i Simon Stewart, Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr, agor y gynhadledd gan herio pawb i feddwl am sut gall y strategaeth eu cefnogi nhw a’u gwaith wrth ddelio gydag amrywiol anghenion pobl ifanc.

Cynhaliwyd gweithdai hefyd, ac roedd pynciau yn cynnwys sut gellir dal ac arfarnu siwrnai plant, sut gellir rhoi gwell cefnogaeth i lais plentyn, sut i weithio ar draws sectorau gwirfoddol a statudol ac a yw gwaith ieuenctid yn cyrraedd pawb?

Hefyd cynhaliwyd noson o ddathlu i gydnabod gwaith staff a phobl ifanc a chydnabod y rhai sydd wedi gwneud newid cadarnhaol yn eu bywydau.  Nid oeddent yn cydnabod ymdrechion achrededig, yn hytrach cadernid, ymroddiad, cefnogaeth ac weithiau’r wen yn unig sy’n gwneud bob sesiwn yn werthfawr. Categorïau gwobrau’r bobl ifanc oedd:

  • Gwobr Ysbrydoliaeth – i bobl ifanc sy’n dod a goleuni i’ch diwrnod
  • Gwobr cadernid – i bobl ifanc sy’n dal i fynd er gwaethaf popeth!
  • Gwobr Newid Personol Cadarnhaol – i bobl ifanc sydd wedi gwneud newidiadau personol cadarnhaol
  • Gwobr Ymroddiad – cydnabod yr amser ac ymdrechion gwirfoddol pobl ifanc i wasanaethau
  • Gwobr Dibynadwyedd – i’r bobl ifanc hynny y gall staff neu gyfoedion droi atynt pan fo angen.

Bu i Donna Dickenson Pennaeth Gwasanaeth Atal a Chefnogi gyflwyno tystysgrifau a phlatiau arian i 11 o bobl ifanc oedd yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad y gwasanaeth ohonynt.

Bu i gydweithwyr a chyfoedion enwebu staff am bethau tebyg. Categorïau’r staff oedd:

  • Gwobr dibynadwyedd – i staff a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un
  • Gwobr ymroddiad – cydnabod gwasanaeth hir i bobl ifanc
  • Gwobr cadernid – i staff sy’n dal i fynd er gwaethaf…….
  • Gwobr Arweinydd Ysbrydoledig – i staff sy’n ysbrydoli eraill
  • Gwobr Newydd-ddyfodiad – i staff newydd sydd wedi bwrw iddi’n syth.

Eto, bu i Donna gyflwyno platiau arian i chwech o staff mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniadau, ymdrechion ac ymroddiad i bobl ifanc a’r gwasanaeth.

Mae’r cynllunio ar gyfer cynhadledd 2020 eisoes yn digwydd!!

Rhannu
Erthygl flaenorol Gweithio i fod yn gyfeillgar i ddementia Gweithio i fod yn gyfeillgar i ddementia
Erthygl nesaf Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English