Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth
Arall

Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2020 11:31 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth
RHANNU

Efallai y byddwch wedi clywed cyhoeddiadau diweddar am ein Cynllun Treftadaeth Treflun, a fydd yn adfywio nifer o adeiladau hanesyddol yng nghanol tref Wrecsam.

Ac efallai y byddwch hefyd wedi clywed am ei gynllun-partner, y rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol, sy’n anelu i hyfforddi gweithlu medrus sy’n gallu gwneud gwaith yn y sector sgiliau adeiladu traddodiadol (cyn-1919).

Rydym eisoes wedi cynnal rhai digwyddiadau hyfforddiant wedi eu hanelu at bobl broffesiynol a’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes treftadaeth neu adeiladu. A nawr mae gennym ddigwyddiad arall wedi ei anelu at gael pobl ifanc i’r un maes.

Ar 24 Ionawr, cynhaliwyd diwrnod hyfforddiant yng Nghampws Bersham Campus Coleg Cambria ac ymunodd rhai o’n partneriaid sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Treftadaeth Treflun a’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.

Rhoddodd y diwrnod y cyfle i:

  • gael taith o amgylch y campws
  • siarad gyda thiwtoriaid adeiladu
  • deall yr angen am sgiliau mewn adeiladu treftadaeth
  • mynychu sgyrsiau i archwilio’r pwnc yn fwy manwl
  • mynediad i waith posibl a lleoliadau ysgol drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam.

Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: ‘Mae llawer o waith cyffrous wedi ei gynllunio yn Wrecsam trwy’r Cynllun Treftadaeth Treflun, a gyda’r rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol cysylltiol, mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc yn Wrecsam sydd â diddordeb yn y crefftau traddodiadol.

‘Bydd cyflogwyr bob amser yn edrych am y rhai sydd â sgiliau ychwanegol, a nod digwyddiadau fel y rhain yw dangos i bobl ifanc sut gallant gael hyfforddiant yn y sgiliau mwy arbenigol sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y sector adeiladu treftadaeth.

‘I bobl ifanc sy’n ystyried crefft megis gosod brics neu waith coed, ond heb feddwl eto ynglŷn â ble maent eisiau arbenigo, bydd hwn yn gyfle ardderchog iddynt edrych ar y maes ehangach o sgiliau sydd ar gael.’

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynhadledd a Dathliad Gwaith Ieuenctid Wrecsam Cynhadledd a Dathliad Gwaith Ieuenctid Wrecsam
Erthygl nesaf Cyngor a chymorth rhad ac am ddim i weithwyr Cyngor a chymorth rhad ac am ddim i weithwyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English