Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor a chymorth rhad ac am ddim i weithwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyngor a chymorth rhad ac am ddim i weithwyr
Arall

Cyngor a chymorth rhad ac am ddim i weithwyr

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2020 11:34 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyngor a chymorth rhad ac am ddim i weithwyr
RHANNU

Credir mai ganol mis Ionawr fydd rhai ohonom yn debygol o’i chael yn anodd cadw ein haddunedau Blwyddyn Newydd, neu’n eu torri. Os wnaethoch chi adduned a oedd yn ymwneud â chyllidebu, iechyd neu ffitrwydd, gallai’r wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael i ni drwy Care First eich helpu.

Caiff cyngor am lesiant ei ddiweddaru’n rheolaidd ar wefan Care First Zest a’r ap ffôn symudol. Mae hyn yn rhyngweithiol a gallwch ddewis a gosod nodau unigol, dilyn ryseitiau a rhaglenni. Gallwch gymryd rhan mewn asesiadau llesiant gan gynnwys cwsg, cydnerthedd, a faint o gaffein a dŵr sydd yn eich deiet. Dyma’r manylion mewngofnodi er mwyn i chi gymryd golwg:

www.welshframework-zest.co.uk
cod y sefydliad: wf1

Mae Care First yn darparu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth gan gynghorwyr a all helpu gyda materion ariannol, cyfreithiol a lles gan roi mynediad cyflym i gynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi gan gyngor ar bopeth a all ateb cwestiynau ymarferol.  Gallai hyn ymwneud â:

  • Chyllidebu a chyngor ariannol os ydych wedi gwario mwy dros gyfnod y Nadolig
  • Cyngor am eich hawliau o ran pethau rydych wedi’u prynu
  • Cyngor cyfreithiol oherwydd materion sy’n ymwneud â pherthnasoedd

Rhadffôn 0800 174 319

Gallwch hefyd gael cefnogaeth emosiynol a chwnsela cyfrinachol ar y rhif ffôn uchod, a bydd hyn ar gael 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn.

Hefyd gellir cyfnewid negeseuon ar-lein yn ddiogel gyda Chwnselydd drwy wefan Lifestyle Care First o 8am hyd at hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.

Awgrymir bod gweithwyr yn cadw’r rhif Rhadffôn yn eu ffonau symudol rhag ofn bydd angen defnyddio’r gwasanaeth hwn pan na fyddwn yn y gweithle.

Mae gwefan Lifestyle yn darparu rhaglenni iechyd a lles rhyngweithiol hefyd, ac erthyglau a gweminarau am amryw bynciau.  Mae pynciau’n cynnwys manteision Ionawr Sych ac ymwybyddiaeth o bwysedd gwaed.  Mae gweminarau presennol yn cynnwys gwella eich deiet a phan fydd perthnasoedd yn mynd o chwith:

www.carefirst-lifestyle.co.uk
Enw defnyddiwr: wrexham
Cyfrinair:  employee

Mae unrhyw gyswllt a wneir yn gwbl gyfrinachol ac nid oes angen rhoi gwybod i’ch rheolwr

Mae adborth cadarnhaol wedi ei roi gan rai sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau hyn.  Os ydych wedi cysylltu â Care First ac am roi adborth am eich profiad i gynorthwyo â rheoli contractau, gallwch wneud hynny yn gyfrinachol drwy anfon e-bost neu ffonio Andrea Stevenson, Partner Busnes Adnoddau Dynol, 297511 andrea.stevenson@wrexham.gov.uk Croesewir pob adborth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth Gwahodd ysgolion i ddigwyddiad sgiliau adeiladu treftadaeth
Erthygl nesaf Apêl am luniau ysgol Apêl am luniau ysgol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English