Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynghorwyr benywaidd, rydym eich eisiau chi yn 2022
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynghorwyr benywaidd, rydym eich eisiau chi yn 2022
Pobl a lleY cyngor

Cynghorwyr benywaidd, rydym eich eisiau chi yn 2022

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 5, 2020 1:48 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Women Councillors
RHANNU

Mae grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr benywaidd yn Wrecsam yn galw am fwy o ymgeiswyr benywaidd i sefyll yn etholiadau nesaf y cyngor yn 2022. Y rheswm dros yr alwad yw mai dim ond 10 allan o 52 o gynghorwyr yn Wrecsam sydd yn ferched, lefel o 19% sy’n is na chyfartaledd Cymru.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, y Cynghorydd Adrienne Jeorrett “Rydym yn gweithio yn drawsbleidiol i annog mwy o ferched i roi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr y tro nesaf, os yw 50% o’r boblogaeth leol yn ferched yna mae’n bwysig fod ein gwleidyddiaeth yn lleol hefyd yn gynrychiadol. Yn anffodus nid dyma’r achos ar hyn o bryd ond mae’n rhywbeth y gobeithiwn ei newid gyda digwyddiadau fel yr un a drefnwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb.”

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Ychwanegodd y Cynghorydd Carrie Harper: “Mae merched yn dod a safbwynt newydd i’r bwrdd gwleidyddol a byddai mwy o ferched yn Neuadd y Dref yn rhywbeth a allai Wrecsam wir elwa ohono. Mae rhai cynghorwyr gwrywaidd gwych hefyd ond mae’n amlwg ein bod angen gwell cydbwysedd na sydd gennym ar hyn o bryd. Rydym eisiau dweud wrth bobl mor uchel ag y gallem nad oes rhaid i chi fod yn ddyn, yn wyn ac wedi ymddeol i wneud y swydd hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Sonia Benbow Jones: “Rydym yn annog merched o bob cefndir, os ydynt eisiau sefyll dros blaid wleidyddol neu fel aelodau annibynnol i ddod i’r digwyddiad. Mae’n gyfle i bobl ofyn i ni sut beth yw bod yn Gynghorydd ac i ni egluro pam y teimlwn ei bod yn bwysig i fwy o ferched ymgeisio yn 2022″.

Ychwanegodd y cyd drefnydd, y Cynghorydd Gwenfair Jones: “Rydym yn gobeithio gweld nifer dda yn bresennol yn y digwyddiad cyntaf hwn ond rydym hefyd yn gobeithio trefnu mwy wrth agosáu at 2022. Rydym hefyd yn fodlon dod i siarad gyda grwpiau lleol eraill am hyn yn y dyfodol ac mae croeso iddynt gysylltu.”

Bydd y digwyddiad ‘cynghorwyr benywaidd rydym eich eisiau chi yn 2022’ yn cael ei gynnal yn Tŷ Pawb ar ddydd Sul 8 Mawrth yn Galeri 2 rhwng 12pm a 1pm. Mae’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau yn y lleoliad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Physical Job Working Outdoors Oes gennych chi sgiliau adeiladu? Ydych chi’n gyrru? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Erthygl nesaf Wales Start Up Ydych chi wedi bod yn wenyn prysur? Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English