Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen GWYLIWCH: Disgyblion o Wrecsam ac o ysgol Sbaenaidd yn dod at ei gilydd i addysgu eraill am wastraff plastig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > GWYLIWCH: Disgyblion o Wrecsam ac o ysgol Sbaenaidd yn dod at ei gilydd i addysgu eraill am wastraff plastig
Busnes ac addysgFideo

GWYLIWCH: Disgyblion o Wrecsam ac o ysgol Sbaenaidd yn dod at ei gilydd i addysgu eraill am wastraff plastig

Diweddarwyd diwethaf: 2020/03/13 at 9:56 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Yn ddiweddar, ymunodd Tasglu Eco-weithredu Ysgol Clywedog yn Wrecsam â Colegio Enriquez Soler yn Melilla i greu fideo wych sy’n tynnu sylw at y problemau mae gwastraff plastig yn eu hachosi.

Mae Colegio Enriquez Soler yn ysgol Sbaenaidd, ond mae wedi’i lleoli ar arfordir gogledd Affrica, ac yn rhannu ffin â Moroco.

Mae’r fideo tri munud o hyd o’r enw ‘Plastic Waste – An Intercontinental Problem’ yn edrych ar sut rydyn ni wedi troi’n ‘fyd o daflu’ ac mae’r disgyblion yn ystyried y gwahanol broblemau sy’n deillio o hyn. Mae’r fideo wedi’i chyflwyno i gystadleuaeth Young Reporter for the Environment 2020.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Dywedodd Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth yn Ysgol Clywedog: “Fe wnaethom ni roi cynnig ar gystadleuaeth Young Reporter for the Environment gyda’r bwriad o greu fideo a oedd yn edrych ar y gwastraff plastig yn ein hysgol. Wedyn, mi gawsom gyfle i uno ag ysgol arall dramor ac fe gipiodd y disgyblion y cyfle.

“Roeddwn i mor falch o’r ffordd roedden nhw’n gweithio gyda’r disgyblion yn Melilla fel pe baen nhw’n ddosbarth arall yn ein hysgol ni, er bod 2,000 o filltiroedd rhyngddynt a’u bod yn siarad ieithoedd gwahanol.”

Tasglu Eco-weithredu

Mae gan Ysgol Clywedog ei ‘Thasglu Eco-weithredu’ ei hun, a gafodd ei greu ym mis Medi 2019, yn wreiddiol i achub hen gae chwaraeon corsiog a’i droi’n ardal ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a chyfoeth o fioamrywiaeth. Ers hynny, maen nhw wedi parhau i gymryd rhan mewn prosiectau mwy amgylcheddol.

Ychwanegodd Nicholas: “Rydw i mor falch o ymroddiad a ffocws y Tasglu Eco-weithredu. Maen nhw eisoes wedi ennill sawl gwobr a dwi’n siŵr bod mwy ar eu ffordd! Mae’r disgyblion wedi dysgu cymaint o sgiliau o’r un prosiect yma.

“Rydyn ni wedi defnyddio Skype yn ystod y camau cynllunio i gysylltu’n fyw â’r ysgol, lle cafodd ein disgyblion ni ofyn cwestiynau i’w disgyblion nhw ac i’r gwrthwyneb. Roedd y disgyblion hefyd yn ymarfer eu sgiliau iaith a chyfathrebu drwy wneud hyn. Roedden nhw hefyd yn dysgu mwy am y broblem gwastraff plastig a sut mae wedi troi’n broblem fyd-eang.”

Mae’r Tasglu Eco-weithredu bellach yn meddwl am eu prosiect mawr nesaf, lle byddan nhw’n creu rhandir garddio i’r ysgol.

Dywedodd Nicholas wrthym ni: “Rŵan a thros yr haf, bydd y grŵp yn canolbwyntio ar greu rhandir i’r ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gael dysgu yn yr awyr agored, cyfleoedd gwaith tîm ac yn rhoi hwb i’w hiechyd meddwl.

“Yna, yn ystod misoedd oer y gaeaf, byddwn yn canolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar faterion fel plastig yn yr ysgol. Mae’r ysgol eisoes yn rhannu gwastraff yn wastraff ailgylchadwy a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu ac mae gennym bwynt casglu beiros sych a phacedi creision, ond mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud eto.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Police crackdown on mobile phone use behind the wheel Ymgyrch yr Heddlu ar dargedu defnyddio ffôn symudol wrth yrru
Erthygl nesaf Are you a Planning expert who leads by example? Take a look at this job… Ydych chi’n arbenigwr Cynllunio sy’n arwain drwy esiampl? Tarwch olwg ar y swydd hon…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
funding
Busnes ac addysg

Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Awst 19, 2025
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English