Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lansio ymateb Cymunedol i Goronafeirws yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lansio ymateb Cymunedol i Goronafeirws yn Wrecsam
ArallPobl a lle

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lansio ymateb Cymunedol i Goronafeirws yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 20, 2020 10:11 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lansio ymateb Cymunedol i Goronafeirws yn Wrecsam
RHANNU

Yn dilyn nifer o gyfarfodydd cynllunio yn Wrecsam i ddelio â’r epidemig Coronafeirws a’r pwysau ar draws y gwasanaethau Iechyd, mae Gofal Cymdeithasol a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn ceisio cael cannoedd o wirfoddolwyr i gefnogi staff i ddarparu gwasanaeth rheng flaen a bod yn gyfeillion cymunedol.

Cynnwys
  • “Cefnogi’r cynnig hwn yn llawn”
  • Ewch i weld os oes gan bobl fwyd a hanfodion eraill

Os yw’r cynnydd a ragwelir yn yr achosion a phobl yn gorfod hunan-ynysu yn yr wythnosau nesaf, bydd y gwasanaethau cynnal dan bwysau sylweddol i barhau i weithredu os yw’r staff yn cael eu heffeithio.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gofynnir i bobl sydd eisiau helpu i gofrestru ar y porth arbennig, a bydd eu manylion yn cael eu cadw tan y bydd cyfleoedd posibl yn codi yn eu hardal.

Cliciwch ar y ddolen hon i gofrestru https://bit.ly/2QgCtfd

Dywedodd John Gallanders, Prif Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam “Mae’n bwysig iawn nad yw unrhyw un sydd yn dymuno gwirfoddoli yn mynd i’r Feddygfa, cyfleuster iechyd, lleoliad Gofal Cymdeithasol neu unrhyw sefydliad arall, gan fod pobl angen deall bod cymorth ei angen ond mae angen rheoli’r bobl gywir ar yr amser cywir i fod yn effeithiol. Mae’r systemau sydd mewn lle i helpu gwirfoddolwyr a’r ardaloedd hynny lle mae angen cymorth.”

“Cefnogi’r cynnig hwn yn llawn”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Yn ystod yr amseroedd digynsail hyn mae’n hanfodol bod pob asiantaeth yn gweithio gyda’i gilydd er lles y gymuned. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a hoffwn ddiolch iddynt a’n holl bartneriaid a gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus i iechyd a lles ein cymuned yma yn Wrecsam.

Bydd rolau sy’n cynnwys gyrwyr; pobl i gerdded cŵn; gofal plant; gwaith gweinyddol/ swyddfa; coginio; cyfeillion; gyrwyr cludo; siopwyr; ymwelwyr i fynd heibio cymdogion – bydd rhai eraill yn cael eu datblygu i fodloni’r galw gan y gwasanaethau.

Dylai darparwyr gwasanaeth sydd eisiau gwirfoddolwyr i gynorthwyo eu gweithred gysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam i gofrestru manylion i allu eu paru â gwirfoddolwyr.

Ewch i weld os oes gan bobl fwyd a hanfodion eraill

Yn ychwanegol i wirfoddoli wedi’i strwythuro, anogir pobl i fod yn gymdogion da drwy fynd i weld pobl yn lleol a allai fod yn unig a heb lawer o ofal a chymorth gan nad yw gwasanaethau yn gallu cael eu darparu. Gofynnir yn arbennig i gymdogion fynd i weld os oes gan bobl fwyd a hanfodion eraill. Mae’n well cysylltu cyn gynted â phosib a pheidio ag aros nes fydd argyfwng.

Yn gyntaf ac yn bwysicaf oll, dylai bawb gymryd sylw o’r holl rhagofalon y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i gyhoeddi wrth ymweld â phobl i leihau’r risg i’r unigolyn sydd yn ymweld a’r unigolyn yn eu cartref.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio i’r cyhoedd 19.3.20
Erthygl nesaf Traders Datganiad ynghylch ein masnachwyr yn ystod cyfyngiadau COVID 19

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English