Gallwch helpu’r GIG i greu gwell dealltwriaeth o’r coronafeirws gan roi dim ond un munud o’ch amser bob dydd.
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho’r Ap Traciwr Symptomau COVID a’i ddefnyddio bob dydd i adrodd am eich iechyd. Bydd defnyddio’r ap i gofnodi eich symptomau bob dydd yn helpu i greu darlun cliriach o’r ffordd y mae’r feirws yn effeithio ar bobl. Mae’r ap ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sy’n profi symptomau.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]