Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy o awgrymiadau am bethau i’w chwarae yn ystod y cyfyngiadau ar symud presennol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mwy o awgrymiadau am bethau i’w chwarae yn ystod y cyfyngiadau ar symud presennol
Busnes ac addysgY cyngor

Mwy o awgrymiadau am bethau i’w chwarae yn ystod y cyfyngiadau ar symud presennol

Diweddarwyd diwethaf: Mai 5, 2020 1:21 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Play
RHANNU

Mae gennym fwy o awgrymiadau ar gyfer chwarae yn ystod y cyfyngiadau ar symud presennol, diolch i’n tîm Ieuenctid a Chwarae.

Gall treulio amser yn chwarae gyda’ch gilydd wneud i chi i gyd deimlo dan lai o straen a gall gynnig cyfle i chwerthin.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Defnyddiwch yr awyr agored ar gyfer profiadau chwarae anniben, yng Nghymru mae’n debygol iawn y bydd natur yn helpu i’w olchi i ffwrdd.

Nid oes rhaid i chi ddifyrru eich plant bob eiliad o’r dydd, os ydynt yn hapus a diogel, gadwch iddyn nhw gyfarwyddo eu chwarae eu hunain.

Ond os oes angen syniadau arnynt, mae digon i’w cael isod:

Defnyddiwch yr amser hwn i roi trefn ar yr ystafelloedd gwely; yn aml, bydd plant am chwarae gyda hen deganau eto os byddwch ar fin eu taflu i ffwrdd.

Gadewch i blant arwain eu hamseroedd chwarae. Rydych chi yno i helpu gydag adnoddau a chynnig syniadau i wella eu profiadau.

Defnyddiwch ddeunyddiau ailgylchu ar gyfer chwarae: pethau fel bocsys, poteli, hen gynfasau a llenni, beth bynnag allwch ei ganfod sy’n ddiogel i’ch plant chwarae gydag ef, fel arfer yw’r adnoddau chwarae gorau.

Cofiwch fod pyliau o dymer ddrwg ac amrywiaeth o hwyliau yn gyffredin a’i bod yn gyfnod anodd i bawb o’r teulu. Fodd bynnag, nid yn aml cawn dreulio llawer o amser gyda’n plant, ceisiwch fwynhau’r cyfnod.

Gwrthrych chwarae’r tîm yr wythnos hon yw “sut gallaf i chwarae gyda Thiwb Cardfwrdd?

Mae’r rhestr yn faith gyda hwn. Ein hawgrymiadau cyntaf yw microffon, telesgop, binocwlars, tŵr, canon, twnnel, trwmped, offeryn ysgwyd… faint mwy fedrwch chi a’ch plant feddwl amdanyn nhw?

Gallwch roi cynnig ar Fodelu Hen Bethau hefyd gydag eitemau llai yn y cartref.

Casglwch 5 peth naturiol o amgylch yr ardd.

Gwisgwch i fyny gyda dillad eich gilydd a chynhaliwch sioe ffasiwn.

Beth am roi cynnig ar hen ffefryn “Dwi’n gweld gyda’m llygad bach i” – syniad da pan fyddwch am gael hoe fach.

Gallwch greu cerddoriaeth gyda hen bethau.

Gallwch wneud pypedau o sanau a chynnal perfformiad awyr agored.

Chwaraewch ‘Mae Simon yn Dweud’ yna gosod cwrs rhwystrau.

Defnyddiwch sosbenni a phadelli i greu drymiau neu cynhaliwch bicnic tedi bêrs yn eich gardd.

Cyn i chi hwylio, gallwch greu eich môr-leidr eich hun – cofiwch y clwtyn llygad. Beth am greu telesgop a gweld a allwch weld môr-ladron eraill a chreu eich baner môr leidr eich hun i’r teulu?

Yn ystod eich taith, beth am weld a fedrwch chi ganfod astell i gerdded ar ei hyd, canu cân fôr, canfod ffon i’w ddefnyddio fel cleddyf, chwilio am drysor – dail, petalau, moch coed, cerrig, glaswellt a llygad y dydd. Yna beth am ganfod man cuddio gwych ar gyfer eich trysor a mynd yn ôl mewn rhai dyddiau i weld a oes unrhyw un wedi dod o hyd iddo? Gallech hefyd hopian fel pe bai gennych goes bren a dweud “Arr my hearty!” wrth bawb fyddwch chi’n eu gweld.

A phan fyddwch chi’n cyrraedd adref, cofiwch lunio map trysor fel eich bod yn gwybod sut i gyrraedd yn ôl at eich trysor!

Tra rydych chi allan, cofiwch gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol trwy gadw 2 fetr oddi wrth bobl eraill er mwyn eich cadw chi a’ch teulu’n ddiogel.

Dyma rai dolenni defnyddiol a fydd yn cynnig syniadau ac anogaeth eraill:

Chwarae Cymru

Heriau Wild Network

Wrecsam Ifanc

Angen help neu gyngor? Cysylltwch â’r tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid dros e bost ar play@wrexham.gov.uk

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 scams on your doorstep Masnachwyr twyllodrus yn targedu preswylwyr hŷn
Erthygl nesaf Looking for work Gall Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu chi ganfod gwaith

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

Hydref 13, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English