Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tîm Cydlyniant Rhanbarthol yn talu teyrnged i wirfoddolwyr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Tîm Cydlyniant Rhanbarthol yn talu teyrnged i wirfoddolwyr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
Pobl a lle

Tîm Cydlyniant Rhanbarthol yn talu teyrnged i wirfoddolwyr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr

Diweddarwyd diwethaf: 2020/06/04 at 10:20 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Regional Cohesion Team pays tribute to volunteers during Volunteers Week
The Wrexham African Community organisation
RHANNU

Bob blwyddyn rhwng 1 Mehefin a 7 Mehefin mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle i ddathlu’r holl sefydliadau ac unigolion rhyfeddol sydd yn rhoi o’u hamser i gefnogi eraill yn y gymuned. Mae nifer o heriau ychwanegol wedi codi eleni i wirfoddolwyr, ac un o’r pryderon uniongyrchol yw sicrhau bod aelodau diamddiffyn ac sy’n ynysu yn y gymuned yn cael mynediad at fwyd a hanfodion.

Mae’r gwaith anhunanol y gwirfoddolwyr wedi bod o fudd i nifer o bobl yn ein cymunedau, a hoffai’r Tîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru ddiolch iddynt am eu hymdrechion gwych.

Dywedodd Gareth Hall, Swyddog Cydlyniant Rhanbarthol: “Hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sydd wedi bod yn gweithio’n galed yn trefnu parseli bwyd a chludo nwyddau cartref i’r rheiny mewn angen. Mae hyn yn cynnwys busnesau lleol megis Siop Y Fro yng Nghlawddnewydd, Sir Ddinbych a’r Community Café yn Rhos, a sefydliadau megis NWAMI (Networking for World Awareness of Multicultural Integration) a CLPW (Cymuned Portiwgaleg Wrecsam) sydd wedi bod yn darparu bwyd a Chyfarpar Diogelu Personol i’r lleiafrifoedd diamddiffyn.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

“Un o’n prif ddyletswyddau ar y Tîm Cydlyniant Rhanbarthol oedd hwyluso grantiau bach i alluogi cael mwy o gefnogaeth gwirfoddoli sydd ei angen. Roedd sefydliad Cymuned Affricanaidd Wrecsam yn fuddiolwyr diweddar o’r rhaglen hon.

“Mae nifer o fentrau gwirfoddoli gwych wedi bod yn cefnogi ein cymunedau mewn ffyrdd eraill. Yn ogystal â chludo bwyd, mae Rhos Community Café wedi trefnu bod eu sesiynau myfyrdod a ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol ar gael drwy Zoom; mae PISC (Canolfan Cefnogi Integreiddio Pwylaidd) wedi bod yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth addysgiadol ar-lein i deuluoedd Pwyleg; a mae’r Clwb Cyswllt yn Sir Y Fflint wedi bod yn cynnal sesiynau gweithgareddau hwyliog i bobl ifanc gydag anableddau, gan gynnwys ychydig o ganu caraoce i unrhyw un sydd digon dewr i ganu!”

Gwobr Uchel Siryf Clwyd

Gan ein bod ar y thema o ddathlu unigolion sydd yn gweithio’n galed i gefnogi’r aelodau fwyaf diamddiffyn yn ein cymuned, rydym hefyd yn falch o gydnabod cyflawniad Godwin Akinyele, gweithiwr achosion gwirfoddolwyr ar gyfer Gwasanaethau Ffoadur y Groes Goch Brydeinig.

Tîm Cydlyniant Rhanbarthol yn talu teyrnged i wirfoddolwyr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr

Ychwanegodd Gareth: “Rhoddwyd Wobr Uchel Siryf Clwyd i Godwin yn ddiweddar am ei ymdrechion diflino i gefnogi teuluoedd ffoaduriaid yng Nghymru. Yn ogystal â’i rôl gyda’r Groes Goch Brydeinig, mae Godwin yn gweithredu fel cynghorydd i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, gwirfoddolwr gyda BAWSO (sefydliad BAME Cymru cenedlaethol), ac yn llysgennad i Voices Network. Does gennym ddim syniad lle mae’n cael amser i wneud popeth – da iawn Godwin!”

Diolch anferthol i’n holl wirfoddolwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hafod Quarry Tân yn Safle Tirlenwi Chwarel Hafod – beth sy’n digwydd nawr!
Erthygl nesaf Scams Mae negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English