Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofiwch gael golwg ar y calendr biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cofiwch gael golwg ar y calendr biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig
Y cyngor

Cofiwch gael golwg ar y calendr biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2021 2:14 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
calendar
RHANNU

Ydych chi wedi edrych ar y calendr biniau’n ddiweddar? Os nad ydych chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i gael golwg arno cyn y Nadolig.

Cynnwys
  • Pethau eraill o bwys
      • Ailgylchu ychwanegol
      • Canolfannau ailgylchu
      • Bagiau Cadi

Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.

Mae’r calendr i’w weld yma.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n hawdd iawn i’w wneud ac yn cymryd ychydig o funudau’n unig, felly cofiwch gael golwg ar y calendr biniau wrth i ni agosáu at y Nadolig. Fe allwch chi ei weld ar eich ffôn clyfar, eich llechen neu ddyfeisiau eraill, a bydd gwneud hynny’n helpu sicrhau na fyddwch chi’n methu eich diwrnod casglu.

“Fe allwch chi hefyd gadw trefn ar eich dyddiau casglu drwy gofrestru i dderbyn ein hysbysiadau casglu sbwriel dros e-bost. Os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cynt.”

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Pethau eraill o bwys

Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 14 Rhagfyr (wythnos nesaf) bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas).

Cofiwch wirio’r calendr bin i osgoi methu casgliad dros y Nadolig. Ar gyfer yr wythnos yn dechrau 21 Rhagfyr, ni fydd unrhyw gartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) na chasgliad gwastraff gardd (bin gwyrdd) – byddwn ond yn casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu o eiddo rhwng dydd Llun – dydd Iau ar gyfer yr wythnos honno. Bydd casgliadau gwastraff cyffredinol yn ailddechrau yr wythnos ddilynol (wythnos yn dechrau 28 Rhagfyr).

Gwiriwch eich calendr casgliadau bin rŵan!

Ailgylchu ychwanegol

Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).

Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.

Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.

Canolfannau ailgylchu

Mae nifer o drigolion yn defnyddio ein tair canolfan ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, ond eleni – yn fwy nag erioed – mae’n bwysig iawn i chi gynllunio hynny ymlaen llaw er mwyn i’ch ymweliad fod mor sydyn a rhwydd ag sy’n bosib.

Cofiwch, rhaid i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â chyfleuster Brymbo. I wneud apwyntiad, ffoniwch nhw ar 01978 801463. Sylwch y bydd y llinell apwyntiadau hon ar gau o 4pm ar Ragfyr 24 tan 8am ar Ragfyr 29.

Defnyddio’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig…cynlluniwch eich ymweliad

Bagiau Cadi

Cofiwch y gall unrhyw breswyliwr sydd angen mwy o fagiau glymu bag i ddolen eu cadi ymyl palmant ar y diwrnod casglu, ac fe wnaiff ein gweithredwyr adael rholyn newydd i chi.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol How we’re addressing concerns and improving our children’s services Adroddiad yn nodi gwelliannau ym maes gwasanaethau cymdeithasol
Erthygl nesaf Dal i chwilio am ysbrydoliaeth anrhegion Nadolig? Galwch heibio Siop//Shop Tŷ Pawb... Dal i chwilio am ysbrydoliaeth anrhegion Nadolig? Galwch heibio Siop//Shop Tŷ Pawb…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English